91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Siân Coffâd i Siân
Mai 2004
Dwi'n cofio'r tro cyntaf i mi gwrdd â Siân oedd yn yr Urdd yn Penrhyn pan oedd tua 8 oed yn gafael ar fag o dda-da yn dynn iawn rhag ofn i blant drwg Penrhyn eu dwyn!
Roedd y teulu yn fy mhasio bob bore yn y Volvo navy blue ar ei ffordd i Ysgol y Garreg, Llanfrothen a minnau'n mynd i Ysgol Gynradd Penrhyndeudraeth - y nhw yn hwyr a minnau.

Siân oedd merch ieuengaf Mair a Moi Thomas, Canol Cae, Penrhyn a gyda thair chwaer ac un brawd. Roeddent yn agos o ran oed ac mynd efo'i gilydd i bobman, gyda Sian yn ei 'high heels a lipstic'. Siân oedd y chwaer fach a 'Siân fach' oedd hi byth wedyn. Roedd ganddi lais canu arbennig - hogan petite efo gwallt hir melyngoch a llygaid glas.

Daethom yn fwy o ffrindiau yn Ysgol Ardudwy, Harlech, ac yn enwedig Delyth Ann a Siân. Roeddent i fewn ac allan o dai ei gilydd a chafwyd lot fawr o hwyl gyda phinacl y cyfeillgarwch oedd 5 ohonom yn mynd ar wyliau bythgofiadwy i Dde Ffrainc newydd gwblhau ein Lefel O! Gwell peidio dweud gormod! Siân yn canu, dawnsio, perfformio a gyda 'timing' heb ei hail. Yn dilyn ei Lefel A aeth i Gaerdydd a chwblhau gradd yn y Coleg Cerdd a Drama ac yn ystod ei hamser yn y coleg penderfynodd nad oedd am gario ymlaen yn y byd cerddoriaeth.

Ar ddiwedd yr haf ar ôl graddio aeth Siân a minnau o gwmpas Ewrop ar drên. Gan fod ganddi gymaint o wybodaeth gerddorol ac arlunio dysgais lawer yn ei chwmni yn ystod y daith. Aeth a mi i dŷ Mozart yn Vienna a'r Uffizi yn Florence.

Yn ystod y gwanwyn canlynol cyfarfu â Bryn, fferm Merthyr, Harlech. Cawr o hogyn a chymaint mwy na Siân! Syrthiodd y ddau dros eu pen a'u clustiau mewn cariad ac roeddwn yn gwybod yn syth y byddent gyda'i gilydd am byth. I feddwl bod Siân wedi dweud na fyddai byth yn priodi ffarmwr!

Penderfynodd Siân fynd yn ôl i'r Coleg Normal a chwblhau B Addysg i fod yn athrawes ac o'r diwrnod cyntaf yno roedd yn gwybod mai athrawes oedd hi am fod. Wrth ddysgu roedd doniau a chymeriad arbennig Siân yn cael eu dangos ar eu gorau. Roedd ganddi ffordd arbennig gyda phlant, ac yn gallu cael eu sylw mewn chwinciad ac yn mwynhau eu dysgu bob munud. Yn gallu ymuno yn yr hwyl ond yn gallu cael y gorau allan ohonynt. Oriau maith bu'n paratoi gwersi, gyda Bryn a'i mam, Mair yn ei helpu, fel y tro y gwnïodd Bryn am ddyddiau y smotiau ar amryw o bryfed buwch goch gota.

Priodwyd Siân a Bryn yn Awst 1994 yn Eglwys Llandecwyn gan ymgartrefu yn Rhydgaled, Harlech. Dechreuodd Siân yn ei swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Gynradd Dolgellau ym Medi 1994 (ar ôl neidio dros y bwrdd i roi sws i Gadeirydd y Llywodraethwyr ar ôl iddynt gynnig y swydd!) ac yno y bu. Ganwyd Elan Hedd yn 1997 a phan oedd Elan yn 18 mis oed penderfynwyd symud i fferm Merthyr er mwyn bod yn agosach at y ffarm weithio.

Cariodd Siân ymlaen i ddysgu yn Ysgol Gynradd Dolgellau hyd nes geni eu hail ferch, sef Cadi Mair a phenderfynodd roi'r gorau i'w gwaith er mwyn cael bod adref gyda'r teulu. Roedd yn fam benigamp wrth ei bodd yn chwarae efo'r genod ac yn stwffio cymaint ag y gallai mewn diwrnod. Ai â'r plant i bobman ac wrth ei bodd yn prynu anrhegion a'u difetha'n lân.

Un o rinweddau arbennig am gymeriad Siân oedd yr amser a oedd ganddi i bawb, a'r ystyriaeth a oedd ganddi y tu cefn i bopeth oedd hi'n wneud. Un o'r enghreifftiau gorau o hyn oedd ei chardiau pen-blwydd, Nadolig ac ati i bawb. Dim jyst 'Pen-blwydd Hapus gan Siân' oedd y neges ond llond y lle o sgwennu a nodau cerddoriaeth a chartŵn. Yr un peth wrth roi llyfr fel anrheg - yn sgwennu tu fewn i'r llyfr bob tro - i bwy, gan bwy a phryd. Dim ond rŵan mae rhywun yn gallu gwerthfawrogi'n llwyr yr amser a'r ystyriaeth yr oedd yn ei roi wrth gyflawni popeth yn ei bywyd.

Roedd Siân yn gredwr mawr mewn cael parti - tebyg iawn i Mair ei mam, cael pawb acw ac yn gwneud 'ffys' mawr ohonynt. Byth yn anghofio pen-blwydd a'r cyntaf i rannu anrhegion Nadolig.

Yn sydyn ac yn ddirybudd 22 mis yn ôl cafodd Siân a Bryn y newyddion pryderus ei bod angen triniaeth ar frys. Yn arwyddocaol taclodd Siân y salwch yn bositif a daeth drosto yn ddi-gwyn yn meddwl am bawb yn hytrach na hi ei hun. Er bod y salwch yn ei phoeni, ni fyddai byth yn dangos hynny.

Ond unwaith eto daeth yr afiechyd yn ôl y flwyddyn ddiwethaf a brwydro a wnaeth Siân. Hyd yn oed yn ystod ei thriniaeth, roedd yn benderfynol o fynd i chwilio am anrhegion i bawb arall, o fynd am dro i draeth Llandanwg, i siopa i Port ac ati ac ati.

Bu'r gofal a gafodd Siân yn ystod ei salwch gan bawb yn arbennig, ond mae'n rhaid sôn am y gofal a chariad ysbrydoledig a dderbyniodd gan Bryn a'i theulu. Bu ef yn gawr ymhob ffordd - yn coginio ei quiches spinach organig a Siân yn ei ganmol i'r cymylau. Roedd y ddau ohonynt bob tro yn rhoi croeso a gwên ar eu hwynebau.

Sydyn iawn oedd hi yn ein gadael ni ar ôl bod yn Ysbyty Gwynedd am wythnos - a dal eisiau mynd adref at Bryn a'r genod hyd y diwedd.

Mae'n anodd credu dy fod wedi mynd ac na chlywaf dy gyfarchiad ar y ffôn - 'Hia hyll!' byth eto. Mae yna wagle mawr ar dy ôl di Siân - ond cario ymlaen y gwnei yn y ddwy ferch hoffus a chwareus sydd gennyt, a gyda Bryn a'r teulu yn eu hannog, eu caru ac yn gefn iddynt.

Welai chdi Siân.

Carina Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý