Mater arall sy'n codi ei ben yw'r posibilrwydd mai symud y broblem i Benrhyndeudraeth a Phenmorfa a wneir gan y bydd rhwystrau yn y ddau bentref yn creu mwy o broblemau os bydd trafnidiaeth drom yn cyrraedd yn gynt.
Mae'r posibilrwydd, hefyd, y ceir tagfeydd ym mhen Tremadog i'r ffordd newydd wrth i draffig ddod i mewn a mynd allan o Port.
A oes ateb arall? Mae'n rhaid cael ateb dros dro beth bynnag.
Bum yn trafod y broblem gyda golygydd mis Chwefror, a hynny ar gornel y stryd ddi-draffig. Dyma rai o'r syniadau a ddeilliodd o'r drafodaeth:
1. Gan fod y broblem ar ei gwaethaf am ryw ddeng wythnos yn ystod yr haf, a hynny, fel arfer rhwng 10.00 y bore a 4.00 y prynhawn, gellid gwahardd parcio ar y stryd o Bont yr Harbwr hyd at groesfan y trên yn y pen arall rhwng yr oriau hyn.
2. Dim caniatâd i loriau a faniau ddadlwytho'u nwyddau rhwng 10.00 y bore a 4.00 a prynhawn.
3. Dim caniatâd i loriau mawr yn cario carafannau, cychod neu dai pren i ddod trwy'r dref yn ystod yr oriau a nodwyd.
Byddai'r pedwar mesur yma'n cadw'r stryd yn glir drwy'r dydd.
5. Aildrefnu'r mynediad i Tesco fel bod y traffig ar y ffordd yn cael blaenoriaeth ac nid y traffig sy'n mynd a dod o Tesco. Mae hyn yn bod yn barod yng Nghaernarfon.
6. Newid amseriadau'r tair set o oleuadau croesi sydd ar y stryd. Gorfodi'r cerddwyr i aros am ychydig mwy, yn lle'r sefyllfa hurt sy'n bodoli (yn enwedig yn y goleuadau wrth yr harbwr) lle maent yn newid i goch ar ôl i un neu ddau gar basio.
7. Efallai y gellid gosod goleuadau dros dro i reoli'r llif o ffordd Penamser ar yr ynys gan fod llawer iawn o yrwyr ar yr ynys pan nad oes ffordd allan ac o ganlyniad, yn cloi llif y traffig. Pedwar golau - Penamser, ffordd o Dremadog, Heol Newydd a'r Stryd. Mae'n haws rheoli felly yn hytrach na chloi'r ffordd yn gyfan gwbl.
Mae'n bur debyg y bydd y lein fach yn cyrraedd Port cyn i'r ffordd osgoi gael ei hadeiladu, felly mae gwir angen arbrofi i rwystro'r tagfeydd enbyd sy'n rhoi enw drwg i'r dref ac yn golygu fod mwy a mwy o bobl yn cadw draw.
Os na fydd hyn yn help i leddfu'r broblem, yna gellir meddwl am ddulliau eraill ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi'r cyfan, rhaid cofio fod y ffordd osgoi rhwng 5-10 mlynedd i ffwrdd cyn hadeiladu (os o gwbl).
|