91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Dr Alexi Glover a'r astronôt Christer Fugelang O'r Greigddu i'r gwagle
Ionawr 2009
Go brin fod fawr neb o blant galluog bro'r Wylan yn gweithio mewn maes mor gyffrous, cymhleth ac arbennig a Dr Alexi Glover o Forfa Bychan.

Y mae'n rhan o dim o wyddonwyr a pheirianwyr sydd yn gweithio i Asiantaeth y Gofod Ewropeaidd ger Amsterdam.

Y maent yn gwneud gwaith ymchwil i'r amgylchiadau a'r tywydd sydd yn wynebu llongau'r gofod wrth lansio a theithio i'r gwagle.

Cyfrifoldeb Alexi yw ymchwilio i dywydd yr uchelderau.

Bob yn hyn a hyn y mae'r haul yn fflachio a thaflu allan gymylau o electronau sydd yn creu ystormydd magnetig. Gallai'r rhain greu ymbelydredd allai ddifrodi lloerennau dynol a llongau yn y gofod.

Y mae Alexi yn ceisio deall sut y mae'r newidiadau i'r haul yn effeithio ar y systemau a gynlluniwyd i deithio a gweithio yn y gofod. Rhaid dyfeisio trefn gymhleth i amddiffyn llongau'r gwagle a'r lloerennau.

Alexi oedd Cadeirydd Pwyllgor y 5ed Cynhadledd Tywydd Ewropeaidd a gynhaliwyd ym Mrwsel ym mis Tachwedd. Darlithiwyd yno gan yr astronot Christer Fugelang o Houston fydd yn teithio i'r gofod eleni. Dyma lun o Alexi ac yntau yn y cyfarfod i'w groesawu.

Roedd Alexi yn un o'r 10,000 a ystyriwyd i fod yn astronot a chyrhaeddodd y 192 ymgeisydd dethol. Yn anffodus ni chafodd ei dewis i'r rhestr fer olaf un ond mwynhaodd y profiad unigryw a chyfarfod pobl mor arbennig a diddorol.

Merch Les a Christine Glover, Pen Lon Celyn, Morfa yw Alexi. Addysgwyd hi yn Ysgolion Eifion Wyn ac Eifionydd ac yna graddiodd gyda MSc dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Llundain. Cafodd Ddoethuriaeth (PhD) am ei gwaith ymchwil ar Ffiseg yr Haul a'r Gofod gan gynnwys yr holl ferw crasboeth sydd yn digwydd o gwmpas yr haul.

Hyfryd oedd gweld bod ei CV yn datgan ei bod yn rhugl mewn Cymraeg yn ogystal a Ffrangeg.

Buasai'r bardd, y crwydryn a'r gwyddonydd Dr T.H. Parry-Williams yn falch iawn o gyn-ddisgybl ei hen ysgol.

Pob dymuniad da i Alexi yn ei gwaith arloesol. M.L.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý