Roedd y gweithfeydd dros y ffordd i'r fynwent wrth odre'r foel. Mi roedd fy
nhaid, sef Griffith Pritchard yn
gweithio yn y chwarel ar y pryd. Ef yw'r ail o'r chwith yn y res gefn.
Ei waith yntau oedd cynnal a chadw'r
peiriant torri cerrig. Roedd rhaid iddo fod yn y chwarel yn gynnar yn y bore i ddechrau'r peiriannau.
Roedd ei
ddiwrnod gwaith yn dod i ben pump
o'r gloch yn y pnawn a'i gyflog oedd 7/6 swllt yr wythnos.
Ar y pryd roedd tua hanner cant yn gweithio yn y chwarel.
Roedd y cerrig a oedd yn cael eu chwarelu ar Foel-y-Gest yn cael eu
c1udo i lawr y llethrau i'r gweithfeydd
islaw ar dryciau.
Roedd y dynion yn y llun yn gweithio yn torri a siapio'r
cerrig ithfaen. Roedd y cerrig yn cael eu defnyddio i balmentu ffyrdd ac mewn adeiladau.
Defnyddiwyd cerrig ithfaen o chwarel Moel-y-Gest i adeiladu y
Telephone Exchange ym
Mhorthmadog. Roeddynt hefyd yn cael eu c1udo i'r trefi mawr fel Lerpwl a Manceinion.
Agorwyd y chwarel yn 1870 ac fe ddaeth y gwaith i ben yma yn ystod pumdegau'r ganrif diwetha'.
Bu sawl cwmni yn berchnogion ar y chwarel gan geisio gwneud busnes ohoni.
Fel pobl busnes arall mae'n debyg y bu llanw a thrai yn llwyddiant y fenter.
Y Caernarvon Granite Quarries o Runcorn oedd perchnogion ola'r chwarel.
Mae sôn wedi bod ers blynyddoedd bod y chwarel am ail agor. Tybed beth fuasai ymateb y bobl lleol petai rhywun yn ailddechrau gweithio'r chwarel?
Mae'n siŵr y buasai cefnogwyr a gwrthwynebwyr brwd o'r ddwy ochr. Buaswn yn ddiolchgar petasai darllenwyr Yr Wylan yn gallu rhoi enwau i'r dynion yn y llun.
Tybed a oes 'na fwy o luniau o'r chwarel gan bobl lleol? Beth am yrru copi i'r Wylan os oes gennych.
Neu a oes rhywun yn cofio gweithio yn y chwarel. Buasai'n gwneud hanes difyr mae'n siŵr. Bryn Jones, Borth-y-gest
|