91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Gwilym Eryri William Powell (Gwilym Eryri)
Ionawr 2006
Pwy oedd William Powell y cafwyd hanes ei deulu yn rhifyn Rhagfyr o'r Wylan? Dyma beth o'i hanes fel y'i cafwyd gan Carneddog yn 'Cerddi Eryri':
"Ganwyd ef yng Nghae'r Bompren (y Bont Pren), Bedd Gelert, Chwefror 20, 1841. Yr oedd yn fab i Evan a Siân Powell; ei dad yn fab i Hywel Gruffydd, y bardd. Cafodd ei addysg yn ysgol Frutannaidd Bedd Gelert, o dan yr athro medrus, George Thomas, ac yr oedd yn ddysgwr cyflym, yn fachgen bywiog a direidus.

"Bu'n gweithio ym mwynfeydd Eryri pan oedd yn llefnyn. Bu'n arweinydd i'r Wyddfa am gyfnod byr, a chadwai dÅ· bwyta am ychydig ar ei phen.

"Pan oedd yn 23 oed codwyd ef yn Stiward ar waith Copr Bryn y Felin, a gelwid ef yn 'Gapten Powell'. Yn 1865 priododd Jane, merch y Bwlch, Nant Gwynant, ac yn 1866 ymfudodd y ddau i'r Amerig.

"Cyn pen rhai blynyddoedd sefydlasant ym Milwaukee, WiS., ac aeth i wasanaeth y 'Chicago & St. Paul Bailroad Co'. Yn 1878 codwyd ef yn 'Swyddog Ymfudol Cyffredinol i'r Cwmni'. Bu yn y swydd honno am 34 mlynedd.

"Gwnaeth filoedd o gymwynasau tra bu yn y swydd, yn enwedig i'w gydgenedl. Bu'n brif ddyn i sefydlu taleithiau Cymreig yn Dakota. Gelwir un lle ar ei enw, sef 'Powell'.

Yr oedd yn un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn yr Amerig. Yr oedd yn genedlgarwr ac Eisteddfodwr mawr, ac yn fedrus fel arweinydd. Carai gerddoriaeth, ac yr oedd yn fardd naturiol, ac yn llenor doniol. Ysgrifennodd ei Atgofion Bore Oes yng Nghymoedd yr Eryri, i'r 'Columbia', ac ugeiniau lawer o ysgrifau difyr a ffraeth i'r 'Drych'.

"Bu farw Rhagfyr 1, 1910 yn 69 oed. Huna ym Mynwent Forest 91Èȱ¬, Milwaukee."

Mae'r arab Wiliam Eryri - ei lith
A'i lais wedi tewi;
Lledodd gwyll dydd ei golli,
A deil nos ein cenedl ni.
Ieuan Fardd.

Mae yr englyn ar ei garreg fedd ym Milwaukee.

JRJ


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý