Nid oes amheuaeth ychwaith nad ydynt hwy a'r tîm yn haeddu gwell cefnogaeth gan ddilynwyr pêl-droed yr ardal, ac nid oes amheuaeth nad oes digon o bobl felly yn yr ardal i sicrhau tyrfaoedd teilwng iawn ar y Traeth i bob gêm gartref y tymor nesaf. Ni ellir llai nag edmygu safon y chwarae ar y lefel yma o bêl-droed, a bydd y safon yn uwch eto y tymor nesaf gyda thimau fel Y Barri a Bangor yn ymweld â ni. Ychydig ddyddiau cyn y gêm ym Mwcle cafwyd canlyniad boddhaol i'r gwrandawiad yn Llandudno i achos y golwr, Richard Harvey. Mae pawb sydd yn gysylltiedig â'r Clwb, yn arbennig felly y chwaraewyr, Viv Williams y rheolwr ac Osian Roberts yr hyfforddwr, i'w canmol am gario ymlaen i sicrhau tymor mor llwyddiannus, a'r bygythiad yma fel rhyw gwmwl du uwch eu pennau am gyfnod rhy hir o lawer. Er iddynt ennill y Bencampwriaeth, nid dyma ddiwedd y tymor o bell ffordd, gan fod Port yn Rownd Derfynol Cwpan Her yr Arfordir yn erbyn Llandudno ar Fai 13, ac yn Rownd Gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar ôl sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Wyddgrug y Sadwrn diwethaf 3-0. Byddai ychwanegu dwy Gwpan at eu llwyddiant yn barod yn y Gynghrair yn ddiweddglo teilwng iawn i dymor i'w gofio.
GLJ
|