Er i Gwilym Deudraeth gael ei eni yng Nghaernarfon yn 1863, â'r Penrhyn y cysylltir ef, gan i'r teulu symud yno pan oedd Gwilym yn ieuanc iawn.Ei enw bedydd oedd William Thomas Edwards, and gyda'i enw barddol yr adnabyddir ef. Yn Ysgol y Penrhyn y cafodd ei addysg gynnar, cyn gadael yr ysgol yn 10 oed, a dilyn ei dad i'r môr. Eithr ei fordaith gyntaf, o Borthmadog gyda llwyth o lechi i Le Havre yn Ffrainc, fu ei fordaith olaf, gan iddo sylweddoli'n fuan iawn ar ôl cychwyn, nad oedd yr heli yn ei waed ef.
Bu'n rhybelwr yn Chwarel y Gloddfa Ganol yn y Blaenau am rai blynyddoedd cyn cael gwaith ar y Trên Bach. Ymhen amser daeth yn orsaf feistr yn Nhan-y-bwlch, cyn cael ei symud oddi yno gan y cwmni i stesion llawer iawn mwy anhygyrch a diarffordd yn Y Dduallt neu Rhosllyn. Yng nghanol unigrwydd ac anghysur y lle hwnnw y cyfansoddodd yr englyn hwn:
Wedi blino yn stesion Rhosllyn
Ciciwch fi i werthu cocos, - neu hyrddiwch
Fi i'r Werddon i aros;
'Waeth ple, i rywle o'r Rhos -
Put me in Ynys Patmos.
Does ryfedd iddo wedyn adael i chwilio am waith arall, a'i gael ei hun yn Lerpwl, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau, ond gan barhau i gael ei adnabod fel Gwilym Deudraeth. Yn ystod ei oes casglodd un o'i gyfeillion, Isaac Davies, Birkenhead, ddetholiad o'i englynion, mewn ymgynghoriad â'r bardd, i'r gyfrol Chydig ar gof a chadw'
Bu farw'r bardd yn Lerpwl yn 1940 a'i gladdu ym Mynwent Merton. Gosodwyd carreg ar ei fedd ar 21 Ebrill 2002, trwy ymdrechion Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi. Fe'i cofir yn arbennig am ei englynion ffraeth a'i gyffyrddiadau cynganeddol sydyn a sicr.
Meddai J W Jones, Blaenau Ffestiniog amdano: Bardd yr awen barod ydoedd, a lluniodd gannoedd o englynion, a'r rhan fwyaf ohonynt yn fyrfyfyr.' Doedd ryfedd i J W Jones ddewis Yr Awen Barod' fel teitl i'w gyfrol goffa iddo yn 1943. Yn ei ragair i'r gyfrol honno cyfeiria'r bardd T Gwynn Jones at y pwyslais a roddai Gwilym Deudraeth ar gael clo trawiadol a chofiadwy i'w englynion. Hyd y gwelaf i, meddai T Gwynn Jones,ypeth hwnnw y mae atyniad y rhan fwyaf o'r englynion a geir yn y casgliad hwn. Y mae'r englyn uchod yn enghraifft dda o hynny, yn ogystal â bod yn brawf o ffraethineb Gwilym Deudraeth.
Ei chwaer yn awdures enwog
Daethai ei chwaer iau, Fanny Edwards (1876-1959) i enwogrwydd fel awdures llyfrau, storïau, cerddi a dramodigau i blant mewn cyfnod pan oedd prinder mawr o ddeunydd o'r fath ar gael. Yr oedd ganddi ddawn arbennig i fynd i fyd plentyn, ac yr oedd ganddi ddawn ysgrifennu ddychmygus a chartrefol a apeliai'n fawr at blant. Ymddangosodd llawer o'i gwaith i ddechrau mewn cylchgronau megis Cymru'r Plant', Trysorfa'r Plant', Y Drysorfa', acY Winllan'.
Yr oedd yn athrawes yn Ysgol y Penrhyn, ac mae'n debyg mai felly y daethai golygydd cyntaf a sylfaenydd Cymru'r Plant', Syr O M Edwards i wybod am ei dawn yn y cyfeiriad yma gyntaf, ac yntau'n Arolygydd Ysgolion ar y pryd.
Enillodd ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfansoddi drama, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951, dyfarnwyd iddi Wobr Goffa Syr O M Edwards ar sail ei chyfraniad i lenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'n debyg mai ei chyfnod mwyaf cynhyrchiol oedd o 1905 i 1929, pan fyddai'n ysgrifennu storïau unigol a storïau cyfres yn gyson i Cymru'r Plant'. Yn y Penrhyn y bu hi byw ar hyd ei hoes, ac fe'i claddwyd gyda'i rhieni ym mynwent Nasareth.
Dyma restr o'i llyfrau:
1908 Ei nofel enwocaf, Cit'.
1926 Casgliad o straeon i blant, Dros y Gamfa'.
1934 Adroddiadau i Fabanod' (ail-argraffwyd yn 1946, 1949 ac 1958).
1951 Chwaraeon ac adroddiadau i blant, Ding, Dong, Ding'.
1951 Chwaraeon ac adroddiadau i blant Siani Lwyd'.
1951 Alsi a'r Tylwyth Teg a storïau eraill'
Erthygl gan GLH