Trafod unigrwydd, fe gofir, a wna Crwys yn un o'i gerddi, Nadolig Siôn y Goetre. Ceir disgrifiad o hen ŵr yn rhyw led obeithio y doi rhywun o rywle i edrych amdano oddeutu'r ŵyl:Cerddodd yn araf a chrwm
I gongl ei fuarth gwelltog
Pwysodd yn hir ac yn drwm
Yn erbyn y boncyff clymog
Drwy gawod o eira mân
Syllodd yn hir, tan wrando
A dychwelodd yn ôl at ei dân
Gan sisial 'Ddôn nhw ddim heno.'
A ddaeth na neb chwaith. Fe'i gadewir yntau yno gyda'i atgofion i furmur yn floesg:
'Ddôn nhw ddim, ddôn nhw ddim heno'.
Nid bod gormod o rai tebyg iddo ym mro'r Wylan gobeithio. Mae'n wir nad ydym hwyrach yn bobl mor gymdogol ag y buom ni ond alla i yn fy myw gredu fod profiad Siôn yn un rhy gyffredin yn y parthau hyn beth bynnag.
Eithr coffa da am rhen Seimon Ffransis, Y Pandy, pan oedd o, a'r ymweliad a gafodd o unwaith oddeutu'r 'Dolig. Hen lanc dros ei bedwar ugain yn byw ym mherfeddion gwledig fy hen ardal 'stalwm, dyna Seimon Ffransis. Ni fyddai'r un copa walltog yn tywyllu ei ddrws o un pen i'r flwyddyn i'r llall. Tebyg i Siôn Y Goetre ar lawer ystyr, dim ond ei fod ef Seimon, wedi cael ymweliad go nodedig dridiau cyn y 'Dolig y flwyddyn honno.
Yn ei mawr ddoethineb roedd y gangen leol o'r Dybliw Ei - a gyda llaw, fe fuasai'n rhaid i chi fynd yn bell iawn cyn y deuech o hyd i nobliach, Cymreiciach (creder neu beidio!) na chleniach criw - wedi penderfynu y dylai pob pensiynwr yn yr ardal gael mymryn o anrheg i nodi'r achlysur. Ac felly y bu.
Doedd dim gormod o arian yn y coffrau mae'n wir a chynnyrch Siop Wlwyrth oedd mwyafrif y trugareddau - dwy hances boced i Martha Wilias Penllaingoch, par o sana' lastig i Elin Gruffydd Rhos Badrig, dol glai efo Made in Hong Kong wedi ei sodro ar ei phen ôl i addurno seidbord hen wraig Talcen Eiddew, owns o faco Condor i Owen Owens Yr Henbont, heb anghofio darn hirgrwn o sebon siafio imperial leddar mewn papur sidan o liw arian i Seimon Ffransis.
Miss Hilda Parri-Edwards, y llywyddes, Margaret Price, yr is-ysgrifenyddes ynghyd â Heather McConnon yn rhinwedd ei swydd fel aelod o bwyllgor y gangen fu'n gyfrifol am ddosbarthu y cyfryw anrhegion ac fe gawsant fwy o groeso yn Y Pandy nag odid yn unman.
Oddeutu'r Calan fodd bynnag, digwyddai Harri, gwas yr Efail, fynd heibio ar ei hald i gyfri'r defaid ac fe benderfynodd y byddai'n eitha syniad iddo guro ar ddrws Y Pandy i holi sut yr oedd hi'n giardio yno -
'Sut Ddolig ddaru hi Ffransis?'
'Coman fachgian.'
'Hei gancar!'
'Coman, ofnatsan las,'
'Dew Annw'l be oedd yn bod?'
'Goeliat ti 'mod i wedi bod yn fflat yn y ciando am ddyddia efo'r beil mwya dychrynllyd?'
'Rioed'
'Cyn wirad â 'mod i wedi ngeni'n droednoeth.'
'Wel ar y fen'd i.'
'Fe alwodd tair o ferchaid o'r hen bentra 'ma heibio - y petha clenia'n fyw cofia di, efo presant i mi; darn braf o inja roc achan.'
'Wyddost ti be', dyna'r peth rhyfedda fytis i yn f'oes. Roeddwn i'n clywad rhyw flas od arno fo wrth imi drio'i lowcio fo er na chysidris i 'rioed y basa'r diawl yn gneud y fath lanast ar fy nghylla i chwaith ...'
'Dyn â'ch helpo.'
'Cyfogi ryw ladder gwyn rownd y rîl y bûm i hogyn a thydw i byth wedi dod ataf fy hun yn iawn i ti ddallt.'
'Naddo m'wn.'
'Ond chwara teg i'w c'lonna nhw ferchaid yr Institiwt 'run fath. Petha ffeind gynddeiriog, neno'r tad, gwirioneddol agos i'w lle ddeudwn i ... ond mi ddeuda i hyn wrthat ti, na thwtsia i ddim o'r blincin inja roc 'na tra bydd yno'i chwyth a chwimiad - byth eto ...'
Nadolig fel hynny gafodd Seimon Ffransis Y Pandy y flwyddyn honno felly. Ond tybed nad tynged rhy annhebyg fydd yn ein haros ninnau yr un modd onid ymbwyllwn? Nid 'mod i'n awgrymu am foment y byddai un ohonom ni yn camgymryd darn o sebon siafio am india roc chwaith. Eto i gyd dydi o'n syndod o fath yn y byd, o gofio'r holl leibio sydd ar seigiau brasterog i gyfansoddiadau delicet o flaen y 'Dolig, fod mwy o dabledi a phowdrach stumog yn cael eu prynu a'u traflyncu i erlid drwg effeithiau camdreuliadau yr adeg hon, rhagor yr un adeg arall o'r flwyddyn.
Y sawl o blith darllenwyr Yr Wylan, y mae ganddynt glustiau i wrando felly, gwrandawent ... rhag ofn! Rwy'n cynnig i chwi gyngor doeth yn rhad ac am ddim. Ymataliwch bob un ohonoch ar bob cyfri eleni felly rhag yr hyn a elwir ganddynt ar Ynys Môn yn ormod o stôrgadjio! Neu yn wir hoffwn i ddim proffwydo sut siâp fydd ar eich dathliadau Calan chitha!
(Addasiad o ran o bennod a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y gyfrol Llacio'r Gengal , William Owen, Gomer, 1982)