Addysgwyd Alexi yn Ysgol Eifionydd ac yna cafodd radd dosbarth cyntaf Prifysgol Llundain mewn Ffiseg Gwyddoniaeth y Gofod y mae ei gwaith yn eithriadol ddiddorol. Y mae'r haul yn taflu allan ymbelydredd a nwyon. Y mae'r rhain gyda'r gwynt, cylchoedd magnetig ac ionaidd yn creu peryglon mawr i bob math o longau ac offer yn y gofod. Gallant beryglu iechyd a bywyd yr astronots ond hefyd dynolryw yn ein byd ninnau. Gelwir hyn i gyd yn 'Dywydd y Gofod'. Ar hyn o bryd y mae yn gweithio gyda Asiantaeth y Gofod Ewropeaidd yn yr Iseldiroedd ac yn gyfrifol am brosiect ar dywydd yn y gwagle. Ar ddiwedd y gwaith ymchwil rhaid penderfynu beth fydd manteision creu gwasanaeth tywydd y gofod i genhedloedd Ewrop. Y mae Alexi yn brysur y dyddiau hyn yn trefnu yr wythnos dywydd Ewropeaidd gyntaf erioed yn yr Iseldiroedd ddiwedd y mis hwn. Disgwylir dros 200 o arbenigwyr o bob cwr o'r byd i gyflwyno canlyniadau eu gwaith ymchwil ar dywydd ac ar ddatblygiadau offer addas i'r bydysawd. Ym mis Rhagfyr bydd yn traddodi darlith ar Dywydd y Gofod a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth a'r Gymdeithas Ffiseg. Yn ei oriau hamdden y mae yn hoff o hwylio a theithio. Rwy'n siŵr fod y ddaear hon yn teimlo'n fach iawn o gymharu â'r eangderau y mae yn ymwneud â hwy yn. ei gwaith bob dydd. Croeso iddi adref yr wythnos hon a llongyfarchiadau calonnog iawn iddi ar ei doethuriaeth. Gobeithiwn gael ambell i erthygl ganddi i'r Wylan ar ei theithiau helaeth gan ddechrau hwyrach gyda sut i daro bargen wrth brynu carped yn Morocco neu hwyl mewn oasis yn y Sahara. M.L.
|