Tra roedd yn blentyn fe symudodd y teulu i 6 Holywell Terrace, Cricieth lle roedd ei fam yn gweithio yng Ngwesty'r Brynhir.Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth yn brentis saer coed i gwmni lleol Robert Evans. Tra roedd yn gweithio yn Muriau, sef cartref Mrs Watkins daeth yn ffrindiau efo'r gogyddes, sef merch ifanc o'r enw Elisabeth Williams o Borthmadog.
Disgynnodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn canlyn am amser. Er ei bod yn edrych fod priodas ar y gorwel, mae'n debyg i Taid gael traed oer. Efallai ei fod yn teimlo ei fod yn rhy ifanc i setlo i lawr. Hwyrach ei fod eisiau byw ychydig cyn i ddyletswyddau teuluol fod yn rhwystr iddo. Yn sicr roedd yr awydd i weld y byd yn ei waed.
Heb ddweud dim wrth ei deulu na'i gariad Lis, fe aeth i Lerpwl a chafodd waith fel saer coed neu 'chippy' ar long stemar fechan yr SS Voltaire a oedd yn eiddo i gwmni enwog Larnport and Holts y Blue Star Line. Bu arni yn hwylio o gwmpas Gogledd a De'r Amerig. Ymwelodd ag Efrog Newydd a Buenos Aires lle gwelodd dlodi ofnadwy. Hoffai adrodd hanes am weld ei ormes ymladd ceiliogod gyntaf yno.
Wedi sawl blwyddyn ar y môr daeth yn ôl i Gricieth ar wyliau a chafodd groeso cynnes gan ei deulu. Rhoddodd dun tobaco o Efrog Newydd yn anrheg i'w dad a 'napkin holder' gyda arfbais y llong SS Voltaire i'w farn. Mae'r ola'n dal yn eiddo'r teulu.
Un arall oedd yn falch o'i weld yn ôl oedd cath y teulu. Tra roedd fy nhaid ar y môr fe ddiflannodd y gath, ond yn union yr adeg iddo ddychwelyd daeth y gath i mewn i'r tŷ ac eistedd ar ei lin!
Ar ôl ei wyliau adref dychwelodd yn ôl i'r llong a oedd ar gychwyn ar fordaith i'r Eidal. Roedd hi 'nawr yn gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf - adeg beryglus i longau Prydeinig fod ar y môr agored. Roedd llongau tanfor yr Almaenwyr o gwmpas ond trwy lwc fe ddaeth yr SS Voltaire yn ôl yn saff i Lerpwl.
Pan gafodd fy nhad ei draed ar dir sych aeth i chwilio am ei hen gariad, Lis. Roedd ei fam wedi dweud wrtho mewn llythyr ei bod hi'n gweithio fel morwyn i deulu De Larenaggas - perchnogion llongau Sbaeneg enwog yn Lerpwl. Wedi iddo gael hyd i'r tÅ·, canodd gloch y drws ffrynt, a thrwy lwc, Lis atebodd. Roedd hithau wedi ei syfrdanu oherwydd nid oedd wedi ei weld na chlywodd ganddo ers iddo adael Cricieth! Ei eiriau cyntaf iddi oedd - 'Lis, a wnei di fy mhriodi?' Nid oedd raid i Nain feddwl eiliad cyn iddi ateb, 'Gwnaf Griff'.
Priodwyd Nain a Taid ar Dachwedd 11, 1916, yng Nghapel yr Annibynwyr yn Neston, Lerpwl. Ychydig o ddyddiau a gafodd y ddau gyda'i gilydd. Oherwydd y rhyfel roedd yn rhaid iddo yntau ddychwelyd i'w long.
Ni welodd Nain ef eto am dair blynedd arall oherwydd ar yr 2il o Ragfyr, 1916 suddwyd yr SS Voltaire tra roedd hi ar y môr 650 o filltiroedd i'r de o arfordir Iwerddon. Enw'r llong hwyliau Almaenig a'i suddodd oedd y Mowe ('Yr Wylan' yn y Gymraeg!). Ni fyddai criw'r llong yn arddangos baner y llynges Almaenig hyd nes yr oeddynt wedi hwylio yn ddigon agos i longau'r gelyn. Yna byddent yn dadorchuddio'r faner ynghyd â dau wn mawr cyn saethu at y gelyn. Drwy ddefnyddio'r tactegau yma buont yn gyfrifol am suddo dros 40 o longau masnach Prydeinig.
Achubwyd fy nhaid a'r rhan fwyaf o'i gyd-longwyr gan griw'r Mowe a'u cludo i wersyll carcharorion rhyfel yng ngogledd yr Almaen. Yn yr un gwersyll roedd carcharorion o Rwsia, Ffrainc a Norwy. Cafodd ei drin yn wael gan yr Almaenwyr. Ni chafodd lawer i'w yfed na'i fwyta a chollodd lawer o bwysau tra roedd yno. Prin hefyd oedd dŵr glân i olchi ac aeth y carcharorion i edrych yn ogystal â theimlo'n wael.
Tra roedd yn y gwersyll gwelodd lun o'i fam yn cerdded tuag ato cyn iddi ddiflannu. Wythnosau yn ddiweddarach derbyniodd lythyr gan ei wraig gyda'r newydd trist fod ei fam wedi marw ar y diwrnod hwnnw.
Dihangodd o'r carchar sawl gwaith ond cafodd ei ddal bob tro. Unwaith bu'n rhydd am ddyddiau hyd nes i ffarmwr ei ddal yn dwyn cabaitsh o'i gae a'i arwain o flaen ei wn yn ôl i'r carchar. Fe'i trosglwyddwyd i wersyll arall saffach a chafodd well triniaeth yno. Dyma lle y bu hyd ddiwedd y rhyfel.
Ar ôl y rhyfel daeth Nain a Taid yn ôl i Gymru gan ymgartrefu ym Mryn Tirion, 1 Stryd Glaslyn, Porthmadog. Yn ystod y 30au roedd siop da-da a thobaco yn yr ystafell ffrynt. Cyflogwyd fy nhaid mewn sawl lle megis Chwarel Moel-y-gest lle bu'n gweithio'r peiriannau. Roedd hefyd alw am ei grefft fel saer coed a bu yn un o'r gweithwyr a adeiladodd hen Ysgol Eifion Wyn.
Ond daeth rhyfel arall i effeithio ar ei fywyd. Ar ôl i awyrennau'r Luftwaffe a'r 'doodlebugs' ddinistrio rhannau helaeth o Lundain yn ystod y Blitz yr Ail Ryfel Byd aeth yno i gynorthwyo gyda'r dasg o ailadeiladu'r brifddinas. Bu'n gweithio ar hyd ei oes, ac yn ei saithdegau roedd yn gwneud 'odd-jobs' yn Laundry Tremadog i deulu Beers neu 'Beards' fel y galwai ef hwy!
Yn ei amser rhydd garddio ar ei blot yn Cae Pawb oedd ei brif ddiddordeb. Roedd yn hoff o dyfu blodau yn enwedig Dahlias.
Enillodd sawl gwobr mewn sioeau lleol cymaint yn wir nes i'w gyd-arddwyr roi'r llysenw y 'Dahlia King' arno.
Bu farw ar Ebrill 22, 1966 ac yntau'n 84 mlwydd oed. Fe gafodd fywyd hir a diddorol, ond anodd ar adegau. Cof plentyn yn unig sydd gennym o Taid a hynny yn eistedd ar ei lin ac yntau'n smocio ei hoff getyn. Tybed a oes gan rai o drigolion hÅ·n Port atgofion amdano. Buaswn yn falch o'u clywed.
Gan Bryn Jones, Borth-y-gest.