91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Stryd fawr Port Hunllef - teithio trwy Borthmadog!
25 Gorffennaf 2003
'Trychineb', dyna yw barn pawb am y drefn drafnidiaeth bresennol ym Mhorthmadog. Y mae disgwyl yn hir mewn ciw ar y Stryd Fawr yn gyffredin, ac yn aml iawn y mae pob dim yn dod i stop.

Y farn gyffredin yw bod hyn yn ganlyniad i newid y drefn drafnidiaeth ar Stryd Madog, fel na ellir teithio i'r dwyrain o gyffordd Stryd yr Wyddfa hyd gyffordd Pioneer. Yr unig ffordd, bellach, i deithio trwy Borthmadog tua chyfeiriad y Cob yw trwy'r Stryd Fawr.

"Mae'n ddifrifol, yn tydi?" meddai un o drigolion Maes Gerddi. "Mae pawb wedi gweld cynnydd yn y traffig cynnydd, cynnydd, cynnydd difrifol. I fynd o Faes Gerddi i Leos rhaid mynd ar hyd y Stryd Fawr rwan. Ac mae pawb sydd am fynd o'r gogledd tua'r Penrhyn a oedd yn mynd trwy'r cefnau hyd yn hyn, yn gorfod mynd trwy'r Stryd Fawr. Pnawn ddoe am chwarter i bump yr oedd ciw traffig i fyny'r stryd cyn belled â'r rheilffordd. Mae hi'n ddryswch llwyr yma."

"Mae hi'n beryglus iawn rwan pan fo plant eisiau croesi i fynd adref o'r ysgol efo cymaint o drafnidiaeth yn dod ar hyd y Stryd Fawr," meddai Angharad ap Robert, athrawes yn Ysgol Eifion Wyn.

"Mae hi'n hollol, hollol wirion yma. Mae gwneud Stryd Madog yn ffordd un ffordd wedi drysu pob dim, sylwodd un arall o drigolion y Port, ac os oedd pobl yn meddwl y byddai rhoi twmpathau ac ynysoedd ar ganol y strydoedd yn rhwystro ceir rhag gyrru'n rhy gyflym, mistêc oedd hynny. Mae pobl yn gyrru mwy dros y twmpathau. Mae'r lle fel racecourse."Nid yw perchnogion busnes y dref yn hapus gyda'r sefyllfa ychwaith, yn enwedig o gofio nad yw'r tymor gwyliau yn ei anterth eto. "Mae'r ciw yn ôl at y Queens yn aml eisoes, mae hi'n hollol wallgof yma," meddai un.

Nododd Nigel Hughes, "hyd yn oed os mai dau gar o bob deg a fyddai'n arfer mynd trwy'r cefnau wrth fynd am Penrhyn, mae cau Stryd Madog yn cynyddu trafnidiaeth y Stryd Fawr o 20%, ac mae hyn yn gwneud pethau'n hollol amhosibl."

Y mae'r heddlu yr un mor anfodlon gyda'r sefyllfa. "Yr ydym yn deall pam fod pobl leol wedi cael eu siomi," meddai swyddog, gan ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid ciwio'n hir, ac mae pethau'n stond ar adegau yn y Stryd Fawr, yn arbennig o gwmpas 9 y bore a 5 y pnawn. Ac mae cymaint o gerbydau trymion yn dod trwy'r dref, yn lorïau a charafannau. Does dim ond angen i un cerbyd barcio'n anghyfreithlon - i ddod â nwyddau i siop yn ystod y dydd, er enghraifft - ac mae'r holl le yn cloi. Y mae'r holl beth yn creu rhwystredigaeth i bawb."

Penderfyniad Cyngor Gwynedd oedd newid trefn y ffordd yn Stryd Madog. Nid oedd yr Heddlu yn gwybod dim am y peth tan ychydig ddyddiau cyn iddo ddigwydd, a heb fawr ddim ymgynghori, meddai eu llefarydd. Yn ei farn ef gellid bod wedi osgoi'r holl lanastr, a dylid adolygu'r penderfyniad i wneud Stryd Madog yn unffordd.

Cred rhai bod dileu'r tollborth ar y Cob hefyd wedi ei gwneud yn anos i reoli llif y cerbydau sy'n dod i mewn i'r dref o gyfeiriad y Penrhyn. Cred eraill y bydd creu'r anawsterau sydd ohoni'n cynyddu'r galw am ffordd osgoi i Borthmadog.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý