Y mae'n darlunio'n berffaith ryfeddod campwaith William Alexander Madocks a'r goruchwyliwr John Williams.
Amheus iawn oedd prydyddion y cyfnod o'r bwriad o gadw allan ryferthwy'r môr. Meddai'r bardd talentog Dewi Wyn o Eifion:
Mwy perygl na champwri - a gorchest
Fydd gwarchau y weilgi:
Nid gwal all atal yn lli
U môr dwfn, mae'n rhaid ofni.
Er gwyr call diball dybiau - er cewri
A'u cywrain fwriadau:
Llifeiriant er cymaint cau,
Dŵr a fyn ei derfynau.
Heidiodd gweithwyr yn eu cannoedd o bob cwr o Ynysoedd Prydain i wneud y . gwaith a chwblhawyd y fenter yn 1811.
Llawenhawn o glywed bod criw o ddynion a merched brwdfrydig wedi dechrau'r gwaith o baratoi i ddathlu'r 200 mlynedd yn 2011.
Yn 1811 rhannwyd posteri drwy Gymru, Y Gororau, Swydd Lincoln a Lloegr yn gwahodd pawb i'r Jiwbili. Estynnwyd gwahoddiad arbennig i Dirfeddianwyr, Aelodau Seneddol, actorion a dilynwyr rasio ceffylau a daethant yn eu cannoedd. Llanwyd pob gwesty a thÅ· yn y cyffiniau i'r ymylon.
Ar ddydd Llun, 16 Medi daeth 'tyrfa o bersonau parchus o uchel ael ac arbenigrwydd' i Dafam Tremadog am 5 gyda'r nos. Am 6 y bore lladdwyd ychen mawr, tew a'i rostio'n gyfan hyd 12 y dydd canlynol. Gyda'r nos perfformiwyd drama yn y theatr.
Y bore canlynol am 10 cynhaliwyd gwasanaeth i agor yn swyddogol yr Eglwys Anglicanaidd gyda 'personau o radd' yn llenwi'r lle a chanoedd y tu allan.
Yn dilyn teithiasant mewn 50 0 gerbydau at y morglawdd i gael mwynhau'r ychen, gwinoedd a chigoedd eraill. Tu ôl i'r cerbydau cerddodd 300 o adeiladwyr y Cob mewn lifrau a roddwyd iddynt gan Madocks a chael cyfrannu o'r ychen.
.
Aethant, wedi'r gwledda, i weld y rasys ceffylau ar draeth Morfa Bychan. Dychwelodd tyrfa i'r 'ordinary' yn y dafam a'r criw dethol i ddawns fawreddog. Yn y sgwâr agored drwy'r wythnos bu telynorion yn diddori'r cannoedd a'r creigiau, meddan nhw, yn diasbedain efo'r emynau.
Dydd Mercher, cynhaliwyd Eisteddfod a chyflwynwyd cwpan hardd i'r bardd buddugol Dafydd Owen o Lanystumdwy. Darllenodd 5 bardd arall eu cerddi.
Cwpan arian a roddwyd i Hercules y prif delynor a rhannwyd £10 rhwng y pedwar telynor arall. Y chwaneg o rasys ceffylau ar y Morfa.
Gyda'r nos perfformiwyd dramâu eraill yn y theatr. Er i rai o'r gwahoddedigion ddychwelyd adref drannoeth casglodd rhai cannoedd i weld mwy o rasys. Llawenhawyd o gael dathliad mor
gofiadwy am gwblhau campwaith 'na
welwyd ei debyg yn hanes y byd.'
Y mae'n dipyn o her i gynnal dathliad tebyg hyd yn oed os nad oes ychen ar gael i'w rostio ar y morglawdd.
Estynnir gwahoddiad i bawb ymhell ac agos i anfon syniadau i Gwenda a Sioned Roberts, Hendre Wen, Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd Ll49 9UY.