91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Y fan goch Siop Maelfa
Hydref 2009
Ni fydd y fan goch efo Maelfa ar ei hochr, a'r gwr efo gwên lydan ar ei wyneb i'w gweld o gwmpas y dref a'r cyffiniau yn hir iawn eto.

Y rheswm yw bod Dafydd, y gwr a'r wen, yn ymddeol ddiwedd y mis nesaf.

Wrth i siop Maelfa yn Stryd Wesla gau am y tro olaf, daw un o fusnesau hynaf y dref i ben.

Meddai Helen Elis, un o deulu'r siop: 'Bu'r siop ym mherchnogaeth y teulu Morgan ers blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf.

"Prynwyd y siop a'r busnes groser gan Evan a Lizzie Morgan ac yno y magwyd eu chwe phlentyn, sef William, Charles, Gwen, Norah, Robin ae Evie.

Bu Lizzie yno hyd ganol y 50au pan ddaeth Gwen (y ferch hynaf, a nain Dafydd) i helpu ei mam yn gyntaf, ac yna yn 1958 hyd ganol yr 80au Gwen oedd y siop-wraig ond yn cael llawer o gymorth gan Ken a Dafydd.

"Wedyn wrth gwrs, Dafydd, yn 1984 yn dilyn ei Nain a'i hen Nain ac yn newid ychydig ar y cynnyrch drwy ganolbwyntio ar lysiau, ffrwythau a physgod."

Mae Dafydd yn cofio bod ei Nain yn gwerthu paraffin, ymysg pethau eraill, ac mae'n cofio moch yn cael eu cadw yn y cefnau.

Mae hi'n siop gartrefol braf. Ambell waith pan na fydd neb yn digwydd bod tu ôl i'r cownter bydd cwsmer wedi bod i mewn, yn helpu ei hun i'r ffrwythau, a gadael y pres ar y cownter.

Ym mhle arall heblaw Porthmadog y ceir ymddiriedaeth fel hyn rhwng siopwr a'i gwsmeriaid?

Gweithiodd Dafydd yn galed iawn ar hyd y blynyddoedd. Ni chafodd wyliau ers deng mlynedd, na cholli diwrnod o'r siop.

Bydd yn mynd i Lerpwl i nôl llysiau ddwywaith yr wythnos, cychwyn berfeddion nos a dod adref i gynnal y siop drannoeth.

Un Nadolig cyn cael fan newydd fwy, bu yno bedair noson yn olynol. Ar ben hyn i gyd mae ei fusnes yn mynd ag ef i westai o Gricieth hyd Harlech.

Teimladau cymysg sydd ganddo wrth ymddeol.

Beth mae Dafydd yn mynd i'w wneud wedyn tybed?

'Dim,' oedd yr ateb. Mae'n haeddu hynny. Pob hwyl Dafydd yn gwneud dim, dyna'r peth sy'n cadw rhywun brysuraf o'r cwbwl!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý