Rhaid i mi gyfaddef mai, i mi, rhyw adeilad digon cyffredin a diddychymyg ydoedd erioed o'r tu allan.
Y mae, ar ei newydd wedd, yn llawer mwy deniadol ac urddasol.
Deallaf i 'Cadw' ddynodi Capel Peniel dros y ffordd yn Gradd I yn 2005. Dim ond 2% o'r adeiladau a gofrestrwyd gan y corff hwnnw a haeddodd y fath ganmoliaeth.
Yn y flwyddyn 2010 bydd yr adeilad yn 200 oed. Y mae, fel y gellid disgwyl, erbyn hyn yn dangos ei oed. Yn sicr, dyma un o gapeli harddaf Cymru. Y mae yn efelychiad o un o eglwysi godidocaf Llundain, sef St Paul yn Covent Garden a adeiladwyd yn 1538 ac a gynlluniwyd gan yr enwog Inigo Jones.
Fel y canodd Rowland Hughes y mae cymaint o addoldai Cymru yn 'llwm eu llun, a thrwsgl eu trem'. Y mae Peniel - fel Tabernacl, Llandudno a Hermon, Abergwaun - gyda'u pileri Groegaidd, ymysg yr eithriadau hyfryd a chynhyrfus.
Ceryddwyd Maddocks gan Esgob Bangor am roi tir i'r Methodistiaid i adeiladu capel.
Achubasant y blaen ar yr Anglicaniaid a chodi'r adeilad ysblennydd.
Yno y daeth tywysogion go iawn Cymru - Thomas Charles o'r Bala a John Elias - yn 1810 i ymuno â Maddocks a Twm o'r Nant i'r agoriad swyddogol.
Yr achos yma fu am gyfnod maith yn galon ac ysbrydoliaeth y pentref ac, er y lleihad mewn aelodaeth yma, fel yn eglwysi eraill Cymru, y mae'r ffyddloniaid yn parhau i gynnal y fflam a chanu mawl. Dim ond gobeithio y gellir denu symiau enfawr a sicrhawyd i'r eglwys gerllaw i ddychwelyd yr adeilad arbennig hwn i'w holl ogoniant. M L
|