Er hynny, ers tua 40 mlynedd y mae cystadleuwyr o bedwar ban byd yn tyrru i Ashton unwaith y flwyddyn i gystadleuaeth Pencampwr Concyrs y Byd. Y mae'r rheolau mor llym a chaeth a rheolau yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar ôl cyrraedd Ashton y maent yn cael dewis concyr. Gawn nhw ddim cadw eu concyrs mewn drôr am fisoedd, eu rhoi yn y popty neu eu paentio efo farnais i geisio eu caledu fel y gwnaeth plant erioed. Os cofiwch roeddem wedi mabwysiadu rheol arbennig:- os yw eich concyr yn un
newydd sbon a chwithau yn malu cneuan 20 oed y mae oed eich un chwi yn 21. Nid yw hynny yn cyfrif yng ngornest y byd. Y beirniaid sydd yn penderfynu hyd y llinyn a gorau'n y byd os yw yn fyr er mwyn anelu'n gywrain at ganol arf eich gwrthwynebydd. Gwae chwi os gollyngwch eich concyr. Os gwna eich gelyn weiddi "stamp" cyn i chwi weiddi "dim stamp" gall sathru eich concyr yn dameidiau gyda'i esgid. Os gwna'r llinyn glymu yn un y gwrthwynebydd cewch dro ychwanegol os gwnewch weiddi "llinyn" o'i flaen ef. Caiff pob chwaraewr dair tro. Y mae pob gem yn para 5 munud. Os nad yw yr un gneuen wedi malu ymestynnir yr ornest honno. Os oeddech yn hen law ar y gêm pan oeddech yn yr ysgol ers talwm brysiwch i roi eich enw i lawr i herio pencampwr Siapan, Awstralia neu'r Unol Daleithiau. Bydd yr ornest nesaf ar yr ail ddydd Sul yn Hydref 2006. ML
|