Chwi gofiwch, wrth ddod i mewn trwy'r drws, fod y llwyfan yn eich wynebu: troi i'r dde, a dyna chi yn y gegin ar y ffordd i mewn i'r capel, ac o'r gegin, rhwng y capel a'r festri, yr oedd lleoliad y toiledau. Sylweddolwyd ers amser maith bod angen 'gwneud rhywbeth', ond un peth ydi 'dweud', peth arall ydi 'gwneud'! Gyda'r aelodau yn gwbl gefnogol i awgrymiadau'r swyddogion a'r ymddiriedolwyr, cychwynnwyd ar y fenter. Y pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth y Parch. Iwan Llewelyn Jones gydag Alwyn Jones yn ysgrifennydd, oedd Gwilym Dwyryd Jones, Bryn Evans, Ceri Roberts, Mair Jones, Goronwy Jones, Nia Parry Jones, Alwen Evans, Marian Jones, Robert Gwilym Lewis, Harri Jones, Arthur Edwards, Len Goodman ac Arwel Pugh. Arweiniwyd y datblygiadau gan Alun Meirion Jones o gwmni penseiri ap Thomas ac ymddiriedwyd y gwaith addasu, a waned yn rhagorol gyda llaw, i gwmni adeiladu Berwyn Parry, Porthmadog. Cwblhawyd y gwaith erbyn Medi 2003, gyda'r adeilad yn cyrraedd gofynion Deddf yr Anabl yn llawn. Yn oedfa'r Diolchgarwch fore Sul, Hydref 3, yr oeddem yn dathlu'r agoriad mewn llawenydd. Erbyn hyn, mae'r ystafell yn un gwerth ei gweld - daethpwyd â'r to yn is (false ceiling), lle'r oedd yr hen lwyfan, y mae rŵan gegin sylweddol ei maint a dau doiled gyferbyn a'r gegin honno. Y bwriad yn awr yw diddosi'r hen gegin, oedd rhwng y capel a'r festri a'i gwneud yn fan mwy cyfleus eto i gyfarfod. Do, cafwyd gweledigaeth ac eisoes profodd y festri newydd yn llwyddiant ysgubol - yn addas iawn i'r Ysgol Sul, yn cael ei defnyddio'n aml yn ystod yr wythnos i gyfarfodydd y capel, a sawl cymdeithas arall yn gwneud defnydd ohoni. Diolch yn fawr iawn am bob cydweithrediad. Alwyn Jones
|