Roedd yn ofynnol i bob aelod newydd addunedu i fod yn ffyddlon i Gymru, i Gyd-ddyn ac i Grist.
Mae gennym ni dair Gŵyl Flynyddol a deuant, fel y digwydd, yn yr un drefn ag y ceir hwy yn yr addewid uchod - Gŵyl Cymru ym Mawrth, Gŵyl Cyd-ddyn ym Mai, a Gŵyl Crist yn Rhagfyr.
Mae'r ŵyl gyntaf a'r olaf - Gŵyl Dewi a'r Nadolig yn hen ond yr oedd angen rhywbeth i'w huno. Roedd angen uno pobl Cymru a'i gilydd ac a phobloedd y byd mewn cadwyn o frawdgarwch.
Yn 1918 daeth y syniad i'r Parch. Gwilym Davies y gallai plant Cymru gyfarch plant y byd, dros yr awyr, yn enw Heddwch ac Ewyllys Da. Derbyniwyd ei awgrym ac ar doriad gwawr ar Fehefin 28, 1922 anfonwyd y neges gyntaf.
Fe'i clywyd gan un person o leiaf - Cyfarwyddwr Gorsaf Tŵr Eiffel ym Mharis ac ailadroddodd ef y neges am 10.15 yr un bore. Ni chafwyd yr un ymateb arall ond glynodd Gwilym Davies wrth ei weledigaeth, ac o flwyddyn i flwyddyn cynyddodd yr ymateb.
Penderfynwyd darlledu neges ar Fai 18 yn flynyddol a daeth y dyddiad yma i'w gydnabod fel Dydd Ewyllys Da Cydwladol.
Dewiswyd y dyddiad gan mai ar Fai 18 yn 1899 yr agorwyd y Gynhadledd Heddwch gyntaf yn yr Hag. Bellach dyma'r gadwyn yn ei lle - Cymru, Cyd-ddyn, Crist. Yn arwyddocaol, ar yr un dyddiad - 1922 - y sefydlodd Ifan ab Owen Edwards y mudiad Urdd Gobaith Cymru.
Gwelwyd y gellid uno Neges Ieuenctid Cymru a mudiad newydd yr Urdd. Wedi marwolaeth Gwilym Davies yn 1955, plant Cymru, dan adain yr Urdd a fu'n gyfrifol am y neges yn flynyddol. Neges a oroesodd bob chwyldro a rhyfel dros y blynyddoedd. Sefydlwyd gwyliau Ewyllys Da mewn sawl gwlad. Cyhoeddwyd cylchgronau mewn llawer iaith a darlledwyd negeseuon i bum cyfandir.
Mewn teyrnged i'r Cymro mawr hwn a gysegrodd ei fywyd i ledaenu'r neges - y gŵr a gychwynnodd trwy garu Cymru ac a orffennodd trwy garu'r byd - rhaid i ni sicrhau parhad yr arferiad. Mawrygwn lafur di-ildio sylfaenydd y Neges a thrysorwn ei weledigaeth o Ewyllys Da. Rhydd gyfle i ni ganolbwyntio ar y rhai sy'n byw dan ormes, a'r rhai a gystuddir gan afiechyd, tlodi a newyn yn y gwledydd prin eu cyfleusterau.
Gwerth y neges yw'r defnydd a wneir ohoni fel cyfrwng i gyffwrdd dychymyg, i agor meddyliau, ac i feithrin yrndrech ac ewyllys da.
Cadwn y dydd hwn - Mai 18 - Dydd Ewyllys Da - yn ddydd arbennig yn flynyddol.
G.R.