Roedd gan ei theulu gysylltiadau cryf gyda Phorthmadog, treuliodd lawer o'i gwyliau tra'n blentyn yn yr ardal, a hefyd fe'i hanfonwyd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn ogystal gall olrhain ei hachau yn yr ardal dros sawl canrif.
Wedi iddi ymgartrefu ym Mhorthmadog priododd a phensaer Heol, Griff Morris, a magwyd teulu ganddynt yng nghanol y dref.
Mawr oedd ei diddordeb yn hanes yr ardal ac aeth ati gyda chefnogaeth ei theulu i gasglu dogfennau, lluniau a hanesion.
Ffrwyth y llafur hwnnw yw'r casgliad adneuwyd yn Archifdy Caernarfon.
Y mae 'Casgliad Myfanwy Morris' yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sydd a diddordeb yn natblygiad tref a phorthladd Porthmadog, a hanes yr ardaloedd cylchynol.
Treuliodd Mrs Morris ei hoes yn casglu gwybodaeth am ei thref ac y mae'r casgliad yn adlewyrchu hynny.
Mae'n cynnwys toreth o ddeunydd printiedig - yn llyfrynnau, taflenni, rhaglenni cyngherddau a pherfformiadau eraill, llythyrau, tocynnau, anfonebau a derbynebau, a hysbysebion busnesau lleol.
Yn ogystal, mae'r casgliad yn cynnwys nifer helaeth o luniau; du a gwyn a lliw - o bob math o ddigwyddiadau yn ymwneud a'r dref.
Ceir yn y casgliad bron i 200 mlynedd o hanes - o garnifalau i gymanfaoedd ac o forwyr a llongau i fabolgampwyr.
Croniclwyd hefyd hanes unigolion genedigol o'r ardal neu rai oedd a chysylltiadau agos a'r dref.
Yn y casgliad ceir nodiadau bywgraffyddol ar berchnogion a chapteiniaid llongau, gŵr busnes, dyfeiswyr, crefftwyr, beirdd, llenorion a cherddorion; gan gynnwys hefyd rai o'r cymeriadau llai parchus a oedd yn rhan o gymdeithas amryliw'r dref.
Yn ychwanegol at hanes Porthmadog, ceir yn y casgliad hefyd nodiadau, lluniau a gwybodaeth am y wisg Gymreig.
Gwnaeth Mrs Morris astudiaeth fanwl o'r wisg draddodiadol ac y mae ffrwyth ei gwaith ymchwil bellach wedi ei ddiogelu yn y casgliad hwn.