91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Carreg fedd Bedd y 'morwr tramor'
Mehefin 2005
Carreg fedd ddiddorol yn Eglwys Llanfihangel y Traethau
'Yma y gorwedd gorff morwr tramor gafwyd ar y traeth Rhagfyr 26 1902.' Bum yn pendroni ers tro beth oedd yr hanes tu ôl i'r garreg fedd yma ym mynwent Llanfihangel.
Lle yn union y darganfuwyd y corff a sut gwyddai'r plwyfolion mai morwr tramor oedd o?

Yn y llyfrgell yn y Brifysgol ym Mangor mae hen bapurau newydd, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl ymhell iawn, ac o ystyried eu hoed, mewn cyflwr eithaf. Gellir gweld rhai hefyd yn yr Archifdy yng Nghaernarfon ac i'r ddau fan yna yr euthum i geisio datrys dirgelwch y morwr tramor.

Mae'n rhaid bod llawer o ystormydd enbyd wedi digwydd diwedd 1902, nid yn unig yng Nghymru ond mewn llawer gwlad arall ac mae sôn am y brig 'Excelsior' o Borthmadog yn cael ei thaflu gan rym yr ystorm ar draeth Holmstad, Sweden, a'i difrodi.

Tebyg hefyd y bu ffawd pum llong a hwyliodd o Borthmadog yn ystod y terfysg. Ysweirwyd pedair gan y 'Portmadoc Mutual Ship Insurance Company' ond er y difrod ni chollwyd yr un bywyd. Yn Yr Herald Gymraeg, Rhagfyr 23ain, 1902 ceir adroddiad am rym y stormydd, y llanw uchel a nerth y gwynt yn achosi i filoedd o erwau o dir fod dan ddŵr ac i dai yn Llangefni a llawer man arall gael eu gorlifo. Torrodd y môr dros y morfur yn Aberystwyth gan ysgubo 150 troedfedd o lasarn (y prom) ac ym mhentref Borth (Aberystwyth) torrodd y môr dros y glannau i'r prif heol.

Ar Ragfyr 18, 1902, derbyniodd Mr H. Richards, cynrychiolydd Lloyds yng Nghaernarfon, neges yn dweud bod llong ar ei hochr ger Ynys Enlli. Anfonodd delegraff i'w gynrychiolwyr yn Abersoch, Aberdaron a Phorthdinllaen i fod ar eu gwyliadwriaeth. Aeth bad achub Porthdinllaen (yn ôl Yr Herald ond Nefyn yn ôl Y Cambrian News) allan yn ddewr i ganol rhyferthwy y storm ddychrynllyd hon i gyfeiriad Ynys Enlli. Buont allan nes iddi dywyllu a dychwelyd tua 8 o'r gloch wedi ymladd, heb weld golwg o'r llong ac yn adrodd hanes am y chwilio a'r tonnau fel mynyddoedd enfawr.

Derbyniwyd neges arall yn dweud bod y llong yn drifftio tuag at Ynys Enlli. Aethant allan eilwaith a hithau yn chwythu tymestl o'r Gogledd/Gog Orllewin a buont allan trwy'r nos gan ddychwelyd am ddeg o'r gloch y bore gyda hanesion anhygoel am eu profiadau yn nannedd y storm trwy'r nos, yn dioddef o oerfel a sâl môr, ond wedi methu gweld dim golwg o'r llong. Yna daeth adroddiadau bod darnau o goed mahogani wedi eu darganfod ar y traethau, dodrefn o'r caban a hefyd dau gwch a'r enw 'Gezusters' Amsterdam amynt, llong newydd oedd hon.

Yna mewn rhai dyddiau golchwyd cyrff tri morwr ar draethau Meirionnydd; un rhwng Llwyngwril a Thonfanau, un yn Dyffryn, ac un wrth Clogwyn Melyn, Talsarnau a nofdorch (lifebelts) am eu canol.

Cynhaliwyd y cwest yn y Ship Aground, Talsarnau. Mr R.O. Jones oedd y crwner a Mr E.M. Roberts (Tremeifion) oedd cadeirydd y rheithor. Dywedodd Mrs Lloyd, Clogwyn Melyn iddi ddod o hyd i gorff y morwr ar ddydd San Steffan. Fe archwiliodd Dr Davies y dillad a daeth o hyd i oriawr o Genefa gyda rhif 177201 arni a'r rhif 23 ar y câs a'r geiriau 'dric-en-twintig' wedi ei cherfio arni.

Cymerwyd felly mai morwr tua ugain oed, o'r Isalmaen oedd y corff a'i fod ef a'r criw druan wedi eu dal yn rhyferthwy'r storm y noson honno. A'i deulu? Mae'n siŵr eu bod wedi pryderu llawer amdano. Ond buasai wedi bod yn rhywfaint o gysur iddynt wybod bod y morwr yn gorwedd mewn llecyn tawel a bod plwyfolion Llanfihangel gynt wedi rhoi carreg ar ei fedd i nodi'r fan.

Mae'r bedd yn yr ail res o'r wal derfyn (lle mae'r grisiau cerrig) y trydydd o'r chwith.

Gwenda Paul.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý