Bu'n croesawu'r holl ymwelwyr a alwodd drwy'r dydd, ac yn eu plith bobl teledu, radio a phapurau newydd, yn siriol a chyda gwên foddhaus - yr oedd y croeso a gafodd pawb yn dangos mor falch oedd hi o weld pob un a alwodd.
Fe ofynnwyd iddi gan fwy nag un beth oedd y gyfrinach i fyw mor hir ac yr oedd yn barod iawn gyda'i hateb i bawb - dim smocio, dim yfed alcohol a mwynhau bywyd!
Mae'n sicr iawn mai un o'r prif resymau pam ei bod yn mwynhau bywyd yw bod ganddi gymaint o ffrindiau a chymdogion yn galw a hithau bob amser mor groesawus ohonynt. Y prif destun rhyfeddod yw ei gweld mor heini a chwim ei meddwl a'i chof a hithau wedi ei geni ddwy flynedd cyn Diwygiad 1904, deuddeng mlynedd cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan, a phedair blynedd ar ddeg cyn i Lloyd George ddod yn Brifweinidog Prydain Fawr. Yr oedd felly'n bymtheg oed pan fu farw Hedd Wyn.
Bu'n aelod ffyddlon yng Nghapel Nasareth ar hyd ei hoes ac y mae'n edrych ymlaen at gael dod i'r capel pan fydd y tywydd wedi cynhesu. Yr oedd yno i'r Oedfa Nadolig ychydig wythnosau'n ôl ac yr oedd 102 o flynyddoedd o wahaniaeth oed rhyngddi hi a'r ieuengaf yn y gwasanaeth y prynhawn hwnnw! Mae ganddi ddau ris i'w dringo i fynd i'w hystafell wely bob nos. 'Does yna ddim byd gwell na dringo grisiau i gadw eich penna'glinia'n ystwyth,' meddai wrthyf y diwrnod o'r blaen!
Mae'n falch iawn o ddangos y llu cardiau a gafodd, yn arbennig yr un a gafodd o Balas Buckingham - y trydydd iddi ei gael ers iddi gyrraedd ei chant oed. Y drefn yw bod un yn cael ei anfon i rai sydd yn cyrraedd y cant, yna y nesaf ar gyrraedd 105 a phob blwyddyn ar ôl hynny. 'Mi fyddai'n cael un bob blwyddyn o hyn ymlaen,' meddai!
|