91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Yr Wylan Chwerthinog Yr Wylan Chwerthinog
Chwefror 2006
Peidiwch â phoeni! Nid colofn jociau newydd i'r Wylan neu ymdrech sydd yma i ail-enwi eich hoff bapur bro neu hyd yn oed ei droi yn 'gomic'!
Yn hytrach Gwylan Chwerthinog yw'r enw a roddir ar ymwelydd eithriadol o brin sydd wedi bod yn bresennol ar faes parcio Llyn Bach ym Mhorthmadog ers rhai wythnosau bellach.

Aderyn o Dde America yw'r Wylan Chwerthinog neu'r 'Laughing Gull'. O bryd i'w gilydd bydd ambell i unigolyn yn ymddangos ynni Mhrydain ond prin iawn yw ei hymweliad yma fel arfer. Hyd at y llynedd dim ond 90 o gofnodion o'r wylan brin yma oedd yn yr ynysoedd hyn erioed.

Ond o ganlyniad i Gorwynt Wilma a'i wyntoedd cryfion a drawodd yr Unol Daleithiau yn ystod Tachwedd y llynedd, fe chwythwyd dros hanner cant o Wylanod Chwerthinog ar draws Mor yr Iwerydd i Brydain. Ymddangosodd y rhan fwyaf ohonynt ar arfordir gorllewinol ein gwlad. Gwelwyd pymtheg ohonynt yng Nghymru. Nifer anhygoel o ystyried mai dim ond tri chofnod o'r aderyn yma oedd erioed i Gymru cyn hynny.

Ac roedd yr oedolyn a welais ar faes parcio Llyn Bach yn eu mysg. A dyna sy'n gwneud byd yr adar prin mor ddiddorol i minnau. Un funud roedd yr wylan yma o bosib yn gorffwyso ar draeth yn Florida ar ei ffordd i Wlff Mecsico, a'r munud nesa' mae'n eistedd ar do sied gefn 'ma ynghanol gwynt a glaw gaeafol Cymreig!

Bûm yn ffodus i ddarganfod yr aderyn prin yma pan agorais y drws cefn ar 14 Tachwedd y llynedd. Yno yn gorffwyso ar darmac y maes parcio oddeutu ugain troedfedd i ffwrdd roedd dwy wylan. Un Wylan Benddu ac un Wylan Chwerthinog! Newydd orffen erthygl i Gymdeithas Ted Breese Jones ar wylanod yn ardal Porthmadog yr oeddwn y noson gynt. Gorffennais yr erthygl gan awgrymu ei bod hi'n hen amser bellach i fath arall o wylan ymddangos yn ein hardal! Gwylan brin o Dde America efallai, tebyg i Wylan Ffranclin, Gwylan Bonaparte neu Wylan Chwerthinog!!

Mae adaryddion sy'n ymddiddori mewn adar prin neu 'twitchars' fel y'i gelwir wedi bod yn heidio yma yn eu cannoedd i weld y dieithryn yma. Efallai eich bod wedi gweld rhesi ohonynt gyda'u telesgopau a'u sbeinddrychau drud yn gyson yn ardal Llyn Bach yn ddiweddar, yn enwedig dros y penwythnosau. Amcangyfrifir bod oddeutu 700 ohonynt wedi teithio'n arbennig i weld yr aderyn, llawer ohonynt o ganolbarth Lloegr ac ardal Lerpwl.

Un bore cyfarfyddais ag un person a oedd wedi teithio ar y fferi o'r Iwerddon dros nos er mwyn gweld yr aderyn prin yma.

Gwylan debyg iawn i'n Gwylan Benddu ni yw'r Wylan Chwerthinog o ran maint a ffurf. Mae'r plu ar y cefn ac ar yr adenydd yn amlwg yn llwyd llawer tywyllach nag ar yr Wylan Benddu. Mae'r pig a'r coesau hefyd yn hirach ac yn ddu neu'n goch mwy tywyll na'r Wylan Benddu. Tra'n hedfan yn yr awyr mae'r Wylan Chwerthinog yn edrych yn hollol wahanol i'r gwylanod eraill gyda'i hadenydd llydan llwyd tywyll. Mae galwad tebyg i berson yn chwerthin ganddi, sydd wedi rhoi yr enw arbennig yma iddo. Mae'r wylan yn ddof iawn ar adegau ac i'w gweld yn agos. Mae'n hoff iawn o fara a sbarion sglodion.

Cofiwch ei bod yn anghyfreithlon bwydo'r gwylanod ar y maes parcio gyda dirwy o £25 neu hyd at £5,000 i'r rhai hynny sy'n torri'r gyfraith!

Elfyn Lewis

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý