Wedi teithio dros nos i Dover, cafwyd croesiad fferi yn y
niwl drosodd i Calais, cyn mynd ymlaen i Arras a Vimy Ridge, i ymweld a chofeb, ffosydd a mynwentydd i gofio'r rhai aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr.
Aethom ymlaen i Paris yn ddiweddarach a chael taith bws o amgylch y brifddinas, lle llwyddwyd i weld y mwyafrif o'r atynfeydd tra'n gwau ein ffordd drwy'r traffig - mae'n brofiad teithio ynghanol llif o geir a bysiau o amgylch yr Arc de Triomphe!
Wedi cyrraedd y gwesty, cafwyd swper mewn Pizzeria, lle'r oedd yr ystafell wedi'i addurno â baneri Cymru, a cherddoriaeth
Gymraeg yn y cefndir - yn arbennig ar ein cyfer. Cafwyd noson hwyliog yno cyn dychwelyd i'r gwesty.
Dros y deuddydd nesaf fe ymwelsom a pharc Disney a'r Disney Studios, lle cafwyd llawer o hwyl a thywydd braf.
Teithiom yn ôl adref yn hwyr ar y nos Sul er mwyn dal y fferi yn ôl, a chyrraedd adref ym Mhorthmadog erbyn brecwast ar y bore Llun.
Rwy'n sicr fod pawb wedi cysgu'n dda ar ôl cyrraedd adref wedi taith hwyliog a phleserus!
Diolch i'r staff wnaeth roi o'u hamser i fynd ar y daith unwaith eto eleni.
|