91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Botymau ffôn "Helo! Helo! Mrs Jones?"
Mai 2006
Ydach chi wedi cael llond bol ar dderbyn galwadau ffôn gan gwmnïau sydd wedi lleoli eu canolfannau galwadau yn y Dwyrain Pell?
Ydach chi'n berson sydd wedi cael hen ddigon ar orfod codi'r ffôn gydag ymholiad i ryw gwmni neu'i gilydd, a mynd drwodd i ganolfan alwadau yn Lloegr neu dramor?

A fuasech chi'n gwerthfawrogi'r cyfle i wneud eich ymholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg? A fuasai'n haws delio gyda rhywun lleol, sydd yn hen gyfarwydd a chyfeiriadau ac enwau llefydd megis Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth, yn hytrach na gorfod sillafu'r enwau hirfaith yma i berson di-Gymraeg, neu berson o dramor sydd a dim syniad bod y ffasiwn lefydd yn bod?

Tybed a oeddech chi'n gwybod bod rhai canolfannau galw, megis canolfan alw BT wedi ei lleoli yma yng Ngwynedd, a bod canolfan alw arall wedi ei lleoli yn nalgylch papur bro Yr Wylan hyd yn oed, a bod y canolfannau hyn yn cyflogi pobl leol, a Chymry Cymraeg?

Erbyn hyn, mae nifer helaeth o gwmnïau yn gweld gwerth mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid, a thystiolaeth o hyn yw'r ffaith eu bod wedi sefydlu llinellau ymholiadau a llinellau cymorth cyfrwng Cymraeg i'r cwsmeriaid hynny sydd yn teimlo'n fwy hyderus ac yn hapusach yn siarad Cymraeg.

Dyma restr o rifau cyswllt Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd, rhag ofn y byddwch angen cysylltu gydag un o'r cwmnïau hyn yn y dyfodol:

BANCIAU
Barclays 08457 44 22 11 (cwsmeriaid personol) 08456015008 (cwsmeriaid busnes)
HSBC 08457 03 03 04
NatWest 01248 67 12 22
Lloyds TSB 08450 72 80 03
AMRYWIOL
Swyddfa'r Post 08457 46 84 69
Parcel Force 08007 313428
Nwy Prydain 08456 03 23 00
Scottish Power /Manweb 08452 72 12 12
Dŵr Cymru 08000 52 60 58
Trwyddedu Teledu 08706 01 11 30
BT 0800 80 02 88
Ymholiadau rhifau ffan BT 118404
Trenau 08456 04 05 00
Traveline Cymru 08706 08 26 08
DVLA 08702 40 00 09 (Gyrrwyr)
DVLA 08702 40 00 10 (Cerbydau)
Prawf gyrru 08700 10 03 72
Llywodraeth Cynulliad Cymru 02920 82 53 55
Llysoedd Cyffredinol 0800 212368
Llysoedd Rheithgorau 0800 59 0416
Heddlu Gogledd Cymru 08456 07 10 01
Gweinyddiaeth Amddiffyn 01554 82 14 13
Swyddfa Cofnodion Troseddol 08709 09 02 23
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 01970 63 28 00
Asiantaeth yr Amgylchedd 08708 50 65 06
Cyllid Y Wlad 08457 66 08 30
Treth ar Werth/Yswiriant Gwladol 02920 38 60 01
Cynilion Cenedlaethol 08459 64 50 00 (Gwasanaeth ar gais)
Y Gwasanaeth Pensiwn 08456 06 02 75
Adran Gwaith a Phensiynau 08456 0144 41
Canolfan Byd Gwaith 08456 06 32 42 / 08456 06 78 90
Gwasanaeth Pasbort 08705 210410
91Èȱ¬ 08700 10 02 22
Gwifren Gwylwyr S4C 08706 00 41 41
S4C Caerdydd Cyffredinol 02920 74 74 44 SC4
Caernarfon Cyffredinol 01286 6746 22
HTV 02920 59 05 90
Llinell Gyswllt Bwrdd yr laith Gymraeg 08456 07 60 70

Cofiwch ei bod yn bwysig iawn gwneud defnydd o'r llinellau cyswllt Cymraeg yma, rhag ofn y bydd eu diffyg defnydd yn arwain at gwtogi'r gwasanaethau Cymraeg a gynigir gan rai cwmnïau yn y dyfodol. Felly, ewch ati, mae cymorth Cymraeg ar gael!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý