Buont yn ffodus a breintiedig o fod yn bresennol yn agoriad y Senedd a chael eu trin fel brenhinoedd gan yr Urdd.
Bu i gôr yr ysgol gael gwahoddiad i berfformio gyda dau gôr arall, côr Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gymraeg Bodringallt yn agoriad y Senedd, dan arweiniad Tim Rhys Evans - profiad gwych ynddo'i hun.
Cychwyn drwy'r eira ar y trên i Gaerdydd a'r plant wrth eu bodd. Rihyrsals i'r côr wedi cyrraedd ¬proffesiynol iawn ac aros yng Nghanolfan y Mileniwm dan nawdd yr Urdd. Sbort a hwyl gan gynnwys bowlio deg gyda'r nos.
Y diwrnod mawr wedi hir ddisgwyl a pherfformio tair can mewn rhaglen o 45 munud. 'Glyndŵr', 'Dathlwn glod ein cyndadau' a 'Gweddi dros Gymru'.
Roedd dagrau yn llygaid llawer wrth glywed y côr o blant Cymraeg dan arweiniad celfydd Tim yn canu o'u calonnau ac atsain eu can yn ysgwyd fframwaith y Senedd - ni chlywyd cymaint o Gymraeg yn yr adeilad na'r diwrnod hwnnw - trueni na fuasai fel na drwy'r adeg!
Taith flinedig adref ar y trên, ond profiad unwaith ac am byth i ni i gyd.
Rhai pethau a ddywedodd y plant: "Soldiwrs go iawn, Mr Hughes!" pan welsant y gwarchodlu milwrol.
"Mae'n fach ac yn debyg i Nain," pan welsant y frenhines.
"Pwy ydi rheina sy'n gweiddi bŵ?" pan welsant dorf yn protestio.
"Ydi hi'n perthyn i Cwin Victoria?" pan welsant y frenhines.
|