91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Gregory Isaacs Recordiau Gregory Isaacs
20 Ionawr 2004
Mae gan Gymru Meic Stevens, mae gan America Bob Dylan, Iwerddon Van Morrison ac mae gan Jamaica Gregory Isaacs. Y gwr hwn yn anad yr un perfformiwr arall sydd wedi hoelio fy sylw ers dros ugain mlynedd.

Cyfweliad yn yr NME gyda phrif leisydd y 'Clash', y diweddar Joe Strummer oedd dechreuad y cyfan. Soniodd Strummer am artistiaid Jamaica ac yn enwedig am Gregory Isaacs fel yr artist a oedd yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd yn y ghetto, y melys a'r chwerw. Dyna efallai yw un o lwyddiannau mwyaf Isaacs, sef ei fod wedi llwyddo i ddarganfod y cydbwysedd rhwng y tyner yn ei ganeuon serch, a'r milain yn ei ganeuon am fywyd beunyddiol y ghetto.

Yn sicr, yn ystod y 35 mlynedd o recordio mae Gregory Isaacs wedi llwyddo i bontio pob steil a hynny gyda chryn lwyddiant. O holl steiliau reggae o Lover's Rock, Steppers, Dub, Dancehall a Ragga, mae Gregory Isaacs wedi llwyddo i gael o leiaf un gân hynod o lwyddiannus a osododd y sylfeini a'r safon i eraill ei ddilyn.

Yn dilyn llwyddiant rhai o'i recordiau cafodd y ffugenwau 'Cool Ruler', 'Lonely- Lover' a 'Heart breaker'.

Ganed Gregory Isaacs yng Ngorhewin Kingston, ardal o'r enw Denham Town yn 1951. Ymysg y dylanwadau cynnar yr oedd Sam Cooke, Otirs Redding a Percy Sledge a sioe deledu "Vere John Opportunity Talasat Contest' a ddaeth â Gregory Isaacs i sylw'r cyhoedd.

Rhyddhaodd Gregory Isaacs ei sengl gynta' yn 1968 dan y teitl 'Another Heartache' ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Yna aeth ymlaen i sefydlu grwp o'r enw y 'Concords' ond eto ni chafodd fawr o lwyddiant.

Penderfynodd sylfaenu ei hun fel canwr unigol gan ryddhau senglau megis 'Lonely Man', 'Too Late', 'Each Day' a 'Black and White', caneuon a oedd yn adlewyrchu bywyd y ghetto. Ei lwyddiant cyntaf oedd y sengl 'All I have is Love' ac o ganlyniad i'r llwyddiant yma sefydlodd Isaacs ei label ei hun o'r enw African Museum gyda'i gyfaill Errol Dunkley.

Yn ystod y saithdegau rhyddhaodd Isaacs sawl record hir ddylanwadol a ddaeth ag ef i sylw Richard Branson a'i label Virgin Records. Recordiodd Isaacs sawl record hir iddo gan ddod ag ef i sylw'r cyhoedd yma ym Mhrydain. Bu'n rhaid aros tan yr wythdegau cyn i Gregory gael ei lwyddiant mwyaf gyda'r record 'Night Nurse' yn 1982, ac yna 'Rumours' yn 1988.

Yn ystod yr wythdegau roedd pob cynhyrchydd recordiau yn Jamaica ar dân i gael Isaacs i recordio iddynt a dyma'r cyfnod pan ryddhawyd toreth o senglau o'i eiddo. Dyma'r cyfnod hefyd y bu'n cydweithio â Sly Dunbar a Robbie Shakespear, sef dau o gerddorion sesiwn mwyaf llwyddiannus Jamaica. Ar un adeg yn ystod yr wythdegau honnir bod Gregory Isaacs yn rhyddhau un sengl yr wythnos, dyna faint ei lwyddiant. Cymaint oedd ei lwyddiant nes ei fod yn gallu teithio a pherfformio ar draws y byd i gynulleidfaoedd enfawr.

Cefais gyfle i'w weld yn fyw ym Manceinion yn 1989. Ers hynny sigledig iawn yw ei yrfa wedi bod. Treuliodd gyfnod yn y carchar am fod â gwn yn ei feddiant a hefyd dioddefodd ei iechyd oherwydd ei or-ddefnydd o gyffuriau. Er hynny, mae'n parhau i recordio ac mae galw mawr am ei ganeuon.

Wedi i mi ddarllen yr erthygl yn yr NME euthum allan i Cob Caffi i brynu record hir Gregory Isaacs ac o'r dydd hwnnw roeddwn wedi fy nal.

Ar y dechrau recordiau hir yr oeddwn yn eu prynu a phrif ffynhonnell y prynu oedd Cob Caffi. Yna gyda threiglad y blynyddoedd datblygodd y casglu o ddifrif gan fentro i faes y senglau. Os yr oeddwn wedi fy nal ar y dechrau yr oeddwn erbyn hyn yn 'addict' neu yng ngeiriau Nerys y wraig 'yn obsesif'. Os oedd mwy o recordiau i'w- casglu yna roedd rhaid cael mwy o gyflenwyr. Dyna felly fwrw'r rhwyd ymhellach o'r fan a mentro gyda siopau yn Llundain, siopau sydd yn arbenigo mewn cerddoriaeth reggae.

Dros y blynyddoedd hefyd rwyf wedi meithrin cysylltiadau gyda sawl unigolyn sydd yn gwerthu a chasglu recordiau drwy ryddhau rhestrau yn fisol. Rhaid dweud bod y ffynhonnell yma wedi bod yn wythïen gyfoethog i mi fel casglwr. Erbyn heddiw mae sawl gwefan i'w cael sydd yn rhestru recordiau sawl artist ac mae Gregory Isaacs yn un artist sydd wastad yn cael lle amlwg.

Yn ddiweddar rhyddhawyd rhestr a honwyd iddi fod yn rhestr' gyflawn' o'i ddisgograffeg. Treuliais sawl awr yn cribinio drwy'r rhestr gan ddarganfod recordiau newydd a hefyd ddarganfod hyd at hanner cant o senglau a oedd yn fy meddiant nad oeddynt ar y rhestr' gyflawn'.

Dyna sydd yn rhoi 'buzz' i'r casglu, sef darganfod neu bod yn berchen ar rywbeth efallai nad yw eraill yn gwybod amdano. Nid yn unig mae'r recordiau yn bwysig ond hefyd y rhifau matrix sydd ar Gellir olrhain hanes a man caneuon trwy ddefnyddio'r rhifai casglwyr yn fodlon talu pres d record gwael ei chyflwr dim and i matrix a chael llenwi bwlch hones casgliad.

Wel, gwell i mi sôn rhywfaint am niferoedd y recordiau, hynny yw sawl record sydd yn y casgliad? Yn ôl y ddisgograffeg diweddaraf sydd gen i rhyddhaodd Gregory Isaacs 812 o senglau a 150 o recordiau hir ar feinyl. Amcangyfrifir bod tua 400 i 500 o gasgliadau i'w cael ar CD. Felly, gallwch weld beth yw maint y dasg. Mae'r recordiau hir ar feinyl i gyd gennyf namyn tair, ond stori arall yw'r senglau. Hyd yma rwyf wedi casglu 567 o recordiau sengl, rhai 7", 10" a 12" (neu disgo). Rhaid cofio fod y recordiau wedi eu rhyddhau ar labelau recordio gwahanol, mewn gwledydd gwahanol a hefyd gyda rhifau matrix gwahanol sydd yn gwneud y recordiad hwnnw yn unigryw. Mae rhai o'r recordiau yn brin iawn ac yn anodd cael gafael arnynt.

Dim ond rhai wythnosau yn ôl gwelais sengl 12" yn cael eu gwerthu, gyda'r gwerthwr yn nodi mai dyma'r tro cyntaf iddo weld hon mewn cyfnod o ugain mlynedd o brynu a gwerthu, pysgodyn arall wedi dianc o'r rhwyd ond dyna ni, dyna sut ma' hi ym myd y casglwr.

Dewi E. Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý