Yn sydyn dyna glec uchel ar y to, fel pe bai rhywun wedi taflu carreg arno. Roedd y garre, fel y tybiwn ar y pryd, wedi saethu o'r to i ardd y drws nesaf heibio pennau'r bobl oedd allan yno. Ebryn gweld, lwmp tebyg i garreg oedd ar y llawr, rhyw fodfedd o hyd, yn wyn gydag ambell sbotyn du sgleiniog. Wedi gafael ynddo roedd llwch gwyn ar ein dwylo. Bythefnos yn ddiweddarach mae'r llwch yn dal i rwbio oddi arni, ac mae duwch y garreg yn dod i'r golwg, ac mae hi'n edrych fel colsyn. Beth oedd y garreg? O ble y daeth hi? Yr unig esboniad gen i yw mai llwch y llosgfynydd ffrwydrodd yng Ngwlad yr Iâ ydi hi. Mae'n anhygoel fod y lwmpyn yma wedi gallu teithio miloedd o filltiroedd drwy'r awyr, dwy neu dair cilomedr uchlaw wyneb y ddaear. Yn fwy anhygoel byth yw ei fod wedi disgyn o'r fath uchder ar ein tŷ ni! Mae'r garreg ar ei ffordd i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i gael barn arbenigwr ar ei tharddiad. Bu llawer o drin a thrafod a chwyno fod yr awyrennau wedi eu cadw o'r awyr oherwydd y lludw. Wedi gweld y belen ludw galed a sylweddoli mor bell mae hi wedi teithio, ynfydrwydd yn wir fyddai gadael i unrhyw awyren godi i ganol y fath botas. John Rees Jones
|