Cofiwch fod Lleol i mi am weld eich lluniau! Anfonwch nhw at gogleddorllewin@bbc.co.uk
Mae Helen yn enedigol o Dremadog ac addysgwyd hi yn ysgol y pentref ac Ysgol Eifionydd.
Bu'n gweithio gyda Singer (siop beiriannau gwnïo) Porthmadog ac yna gyda'i rhieni yng nghaffi siop Boston House, y Penrhyn.
Bu'n gweithio fel gwniadwraig yn Ysbyty Bron y Garth ers 23 mlynedd.
Ymaelododd â'r Clwb Camera saith mlynedd yn ôl. Yn araf newidiodd i ddefnyddio camera digidol gan ei bod yn cael hyfforddiant gan y Clwb ar y dechneg.
Y mae'n hoffi dawnsio, beicio, a theithio ar y cyfandir yn y 'fan' ac yn mwynhau cwmni ei thri ŵyr.
Mae'r Clwb yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotographhiaeth draddodiadol neu ddigidol.
Cynhelir y cyfarfodydd bob nos Lun am 7.15 rhwng Medi ac Ebrill yn Neuadd yr Eglwys, Penrhyndeudraeth. Gellir cael manylion llawn drwy fynd i'r wefan.
(Saesneg)
|