91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Cadeirydd Cyngor Gwynedd a Bryn Terfel Agoriad swyddogol Ysgol Eifion Wyn
27 Tachwedd 2003
I nifer helaeth o blant bydd y 6ed o Dachwedd yn ddiwrnod bythgofiadwy oherwydd dyma'r diwrnod y daeth y canwr opera byd enwog Bryn Terfel, sy'n hanu o Bant Glas cwta 7 milltir o Borthmadog i agor yr ysgol newydd yn swyddogol.

Mae'r ysgol yn newydd sbon gyda phob cyfleusterau modern ynddi ac yn adeilad golau ac ysgafn gydag awyrgylch gartrefol braf drwyddi draw.

Yn wir eglurodd Bryn Terfel mai dyma'r ysgol yr hoffai ef fod wedi ei mynychu pan yn blentyn. Eglurodd bod yr ysgol newydd yn enghraifft ddelfrydol sut y dylai pob ysgol fod y dyddiau hyn.

Eglurodd Pennaeth yr ysgol, Mr Ken Hughes, fod y plant yn ysu i weld Bryn ers tua deg o'r gloch y bore ac na chafodd neb llai na Siôn Corn yntau y fath sylw gan y plant. Diolchodd Mr Hughes i Bryn am roi o'i amser prin i ddod i Borthmadog i agor yr ysgol yn swyddogol.

Daeth nifer o wahoddedigion ynghyd i'r ysgol a chafwyd anerchiad gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, sef y Cynghorydd R H Wyn Williams.


Yn ystod yr agoriad swyddogol cafwyd eitemau gan ddisgyblion yr ysgol gyda uchafbwynt o weld Esra Warren yn canu deuawd gyda Bryn Terfel. Gwelwyd natur gwbl naturiol Bryn wrth iddo sgwrsio a chydganu hefo'r plant a'r plant hwythau wrth eu bodd yn cael canu ag un mor enwog!

Pwy a wyr, meddai Bryn, efallai y bydd un o ddisgyblion Ysgol Eifion Wyn yn codi rhyw ddydd i fod yn ganwr enwog.

Dadorchuddiwyd y llechen yng nghyntedd yr ysgol yn arwydd swyddogol fod ysgol newydd Eifion Wyn wedi ei hagor ar y 6ed o Dachwedd, 2003. Rwy'n sicr y bydd holl ddarllenwyr Yr Wylan yn dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd i'r holl staff a'r disgyblion yn yr ysgol, heddiw, ac i'r dyfodol.

Glyn E Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý