Newid
ddaeth o rod i rod!
Bu Mrs James, merch y cigydd Evan Thomas Newell, yn byw am dros chwarter canrif dros y ffordd i Neuadd y Dref - adeilad sydd wedi peidio a bod ers sawl blwyddyn bellach.
Yn ôl Mrs James, o gwmpas y Neuadd yr oedd bywyd y dref yn troi, a phobl yn cael cysgod dan y to gwydr oedd o'i chwmpas os byddai'n glawio.
Man cyfarfod ar ddiwrnod
marchnad, sef dydd Gwener, a man
cyfarfod cariadon cyn cychwyn am dro.
Nosweithiau mawr yn ei hanes oedd amser etholiadau. Byddai'r etholwyr yn disgwyl yn eiddgar gan wylio am y drws oedd ar ben y grisiau yn cael ei agor.
A dyna wefr a ai drwy'r cynulliad wrth weld y criw yn sefyll y tu ôl i'r clerc ac yn damcanu'r newyddion cyn eu traethu.
Wedyn, dyna floeddio pan ddeuai enw ffefryn, a sŵn arall os yn anfoddhaol.
Bron na allech ddweud fod pawb yn y Port yno yn disgwyl Blwyddyn Newydd i mewn. Gwylio'r hen gloc yn tynnu at hanner nos, pawb yn ddistaw
ac yn dal ei wynt, ond wedi iddo daro deuddeg dyna'r dorf i gyd yn gweiddi Blwyddyn Newydd Dda ar ei gilydd ac yn dechrau canu.
Y ddrama Gymraeg gyntaf i Mrs James gofio yn y Neuadd oedd 'Aelwyd Angharad',
gyda'r actorion yn cynnwys Mrs John Hughes, Lodge Bodawen;
Miss Tryphena Roberts, Bank
Place a Mrs Ezra Lewis.
Yr oedd grŵp llinynnol hefyd. Yr un Saesneg gyntaf ddaeth i gof Mrs James oedd y Mistletoe Bough, gyda Miss Beatrice Breese,
Morfa Lodge a Miss Myfanwy Davies, Bristol House yn cymryd rhan.
Meddai: 'Bu'r Port yn lwcus iawn yn ei gwmnïau drama, rhai ohonynt yn wych. Y
ddrama fer yr hoffais i
fwyaf oedd Atgofion, gyda Mrs O E McLean,
Mrs Gladys Price, Mr Llew Buckingham a Mr R Robinson.'
Sawl gwaith y perfformiwyd yr opera Blodwen? Cyn yr ai'r cwmni oddi cartref i berfformio byddai rihyrsal yn y neuadd a phawb yn cael mynd i mewn i wrando am chwe cheiniog.
Byddai stondinau mewn un rhan o waelod y neuadd. Byddai teulu Ffatri Bryncir yno ar ddydd Gwener, Mrs Fitzgerald gyda stondin ffrwythau, William Williams yn gwerthu cig a Robin Parry Bach a'i wraig Lily yn gwerthu manion, yn enwedig swigod.
Percy Thomas a edrychai ar ôl y doc mawr, a mawr fu ei ofal amdano.
Bu llawer i sgarmes o gwmpas yr hen neuadd ar hyd y blynyddoedd. Roedd Mrs James yn cofio un o'r ventilators yn disgyn i ganol y sgwâr ar bnawn Llun ar storm o wynt.
Bu arluniau byw (ffilmiau) yn y neuadd yn wythnosol cyn i'r Coliseum agor yn 1931.
Cofiai Mrs James fod yno un noson a rywfodd gosodwyd y llun a'i ben i lawr.
A dyna un o'r gynulleidfa yn gweiddi: 'Turn the machine upside down'. A dyma |Mr Greenwood yn ateb yn syth: "You stand on your bloody head, you bloody fool".