91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Torri'r dywarchen gyntaf Ffordd osgoi
Chwefror 2010
Mae'r dywarchen gyntaf wedi cael ei thorri wrth i'r gwaith gychwyn ar ffordd osgoi Porthmadog.

Roedd dydd Gwener, 29 Ionawr yn ddiwrnod hanesyddol i Borthmadog a'r cylch wrth i'r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth dorri'r dywarchen gyntaf yn natblygiad ffordd osgoi newydd Porthmadog, Minffordd a Thremadog.

Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog: "Bydd ffordd osgoi Porthmadog yn cryfhau'r dref fel cyfleuster canolog i'r gymuned leol gan hyrwyddo ymhellach apêl yr ardal fel lleoliad gwych ar gyfer twristiaid.

"Rydym wedi gweithio'n ddiflino am flynyddoedd i geisio gwella'r tagfeydd traffig ym Morthmadog, Tremadog a Minffordd, felly mae hwn yn ddiwrnod mawr i'r gymuned leol, i'r busnesau ac i deithwyr yr ardal.

" Rydw i'n awyddus i sefydlu grŵp cyswllt cymunedol - gyda 'nghyd-gynghorwyr a phrif gontractwyr y ffordd, Balfour Beatty plc a Jones Bros Rhuthun, fel bod unrhyw faterion yn cael eu trafod a'u datrys o fewn y grŵp hwnnw.

Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i'r ardal, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ffordd yn datblygu wrth i'r misoedd fynd rhagddynt.'

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd a oedd hefyd yn bresennol yn y seremoni dechrau gwaith: 'Mae'n bwysig sicrhau bod cwblhad y ffordd osgoi newydd yn dod a hwb economaidd i gymunedau Gwynedd.

" Bydd lliniaru tagfeydd traffig yr ardal yn cynorthwyo i drawsnewid delwedd y dref yn ystod cyfnod prysur yr haf gan sicrhau bod Porthmadog a'r ardaloedd cyfagos yn llawer haws i'w cyrraedd.

"Bydd datblygu'r ffordd yn cynnig gwell ansawdd bywyd i'r trigolion , wrth iddynt fynd o gwmpas eu gwaith dyddiol unrhyw gyfnod o'r flwyddyn.

" Bydd hyn hefyd yn cynnig ysgogiad pellach i'r diwydiant twristiaeth ym Mhorthmadog ac yn Eryri drwyddi draw.

" Mae gan Borthmadog a'r pentrefi cyfagos gyfraniad gwerthfawr i'w gynnig o fewn y sir.'

Dywedodd Dafydd Elis¬ Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd: "Mae hwn yn newyddion gwych i Borthmadog ac rwy'n hynod falch bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi gwireddu'r addewid a wnaed yn 'Cymru'n Un' i sicrhau bod y ffordd osgoi hon yn cael ei datblygu ynghynt na'r disgwyl.

"Gyda thraffig yn parhau i gynyddu ar hyd yr A487, bydd y buddsoddiad yn darparu gwelliannau hanfodol, cynnig gwell cysylltiadau trafnidiaeth a lleddfu tagfeydd traffig trwm yn y dref.

Bydd yn dod a budd economaidd i'r dref, gan fod busnesau lleol yn gwastraffu nifer o oriau busnes mewn tagfeydd wrth deithio trwy Borthmadog.

Ynghyd a'r gwelliannau i wasanaeth Lein Arfordir y Cambrian, bydd yn darparu'r ardal gyda system drafnidiaeth integredig.'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý