Rydym ni, ddarllenwyr Yr Wylan, yn ymfalchio fod gŵr lleol, sef Dafydd P Jones o Glan Y Wern, Llanfrothen, wedi ennill gwobr amaeth-amgylcheddol 2007 o fewn adran contractwyr trwy Gymru benbaladr..
Mae'r wobr hon yn cydnabod pobol sydd, drwy gyfrwng eu gwaith, yn cyfrannu at lwyddiant arferion amaeth-amgylcheddol yng Nghymru. Gweinyddir y wobr gan y Sioe Amaethyddol Frenhinol, y Ffermwyr Ifainc a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Caiff ei noddi gan y Grid Cenedlaethol.
Cafodd y beirniaid weld enghreifftiau niferus o'i waith ar safle adfer chwarel ger Bryncir. Cawsant eu plesio nid yn unig gan safon uchel y gwaith ond gan safon uchel y gweithwyr hefyd.
Mae Mr Jones yn cyflogi 10 i 12 o weithwyr ac yn sicr mae wedi llwyddo i greu ethos gwaith sy'n hyrwyddo gwella parhaol. Roedd y beirniaid o'r farn fod dod o hyd i waith newydd, prisio tasgau'n gystadleuol a sicrhau fod popeth yn ei le yn galw am sgiliaurheolaethol o'r radd flaenaf - da iawn fo!
Dywedodd un beirniad: 'Mae llwyddiant Mr Jones i sicrhau fod yr holl weithwyr yn gweithredu i'r un safon gyson uchel yn goblyn o gamp ar ei ran.'
Dywedodd Mr Jones: 'Rydw i'n falch iawn o'r wobr hon ac o lwyddiant cwmni contraetwyr Dinas. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi
gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl gan gynnwys fy nheulu, y gweithwyr a'r cwsmeriaid am eu cefnogaeth.'
Rydan ni'n clywed yn aml am ddirywiad pethau yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Llongyfarchiadau teilwng iawn
i Mr Dafydd Jones am ddangos y ffordd ymlaen a chael y fath lwyddiant ar lefel genedlaethol.
|