Tri peth ymysg fy hoff bethau - rhiw griw
Go ryff o hen ffrindiau
A diawl o godi hwyliau,
A bar cefn heb oriau cau.
Ar nos Sul, 15 Gorffennaf, mae Llio Griffith a Paula Williams yn cau'r bar am y tro olaf yn Nhafarn y Ring yn Llanfrothen wedi tair blynedd lwyddiannus dros ben.
Yr oedd yn gryn fenter i'r ddwy ymgymryd a chadw'r Ring, neu'r Brondanw Arms, dair blynedd yn ôl yng Ngorffennaf 2004, a hwythau yn eu hugeiniau. Nid oedd raid poeni - yr oedd yma ddau ben busnes rhagorol a mwy na hynny.
Yr oedd gan y Ring enw fel tafarn lawn cymeriad, gyda'i llawr llechi a'i gwaith pren, a roddai groeso cynnes i bobl leol ac i eraill o bell hefyd. Parhaodd y traddodiad hwnnw gan Llio a Paula, a daeth y Ring hefyd yn enwog iawn am y bwyd gwerth ei fwyta y gellid ei fwynhau mewn awyrgylch anffurfiol.
Bu'r Ring yn fwy na thafam a lle bwyta, serch hynny. Yr oedd digwyddiadau'r Ring yn anfarwol- a rhai ohonynt yn datblygu'n naturiol pan fyddai cymeriadau, beirdd a chantorion yn digwydd bod yno. Mae lluniau nifer o'r cymeriadau a ddeuai ynghyd hyd y waliau.
Tybed a fyddem wedi cael Anweledig, Estella a Gwibdaith Hen Fran oni bai am y Ring?
Daeth nifer o'r grwpiau hyn at ei gilydd i gig ffarwél y genod ar ddydd Sul, 8 Gorffennaf - ar un o'r ychydig ddyddiau braf a welwyd yr haf hwn. Roedd tyrfa fawr yn gwrando ar Gai Toms, Meinir Gwilym, Gwibdaith Hen Fran, Estella, Vates a Gwirioneddol. Gai Toms, a agorodd y prynhawn, a ganodd y set gyntaf ym mharti croesawu'r genod ar 26 Gorffennaf, 2004. Grŵp newydd yw Gwirioneddol, a bu Huw Alwyn sy'n canu efo'r band, yn gweithio y
tu ôl i'r bar i Llio a Paula.
Yr oedd y Ring hefyd yn fan lle byddai beirdd yn casglu, ac mae eu gwaith wedi ei baentio ar y waliau, fel englyn Myrddin ap Dafydd uchod, sy'n mynegi profiad llawer a fu yno, a'r limrig yma gan Dewi Prysor:
Mae tafarn i lawr yn Llanfrothan
Sy'n denu y nytars o bobman,
Dwi yno yn amal
Fel blaenor yn capal
Yn yfad nes mod i yn hongian!
Bydd Llio, sy'n byw yn Nhan Lan, yn dychwelyd i nyrsio'n llawn amser tra bydd Paula ac Ali, a fu'n chef yn y Ring, yn mynd i Efrog Newydd ac yna i deithio'r byd cyn dod yn ôl i Gymru fis Mai nesaf.
Bydd Llion Joshua, Ffestiniog, yn dod i'r Ring yn eu lle. Y mae wedi addo parhau a thraddodiadau gorau'r Ring, ac mae'n siwr y bydd y bwyd a'r croeso yn ardderchog, gan fod Llion wedi bod yn chef yn Le Gallois yng Nghaerdydd, ac yn Babacus yno.
Dymuniadau gorau'r Wylan i bawb diolch i Llio a Paula am eu croeso ardderchog a'r diddanwch ar hyd yr adeg; a phob lwc i Llion.