Enillodd Dion le fel actor mewn cynhyrchiad oedd yn seiliedig ar y Mabinogi ar ôl gwrandawiad efo'r Cwmni. Bu 800 o ymgeiswyr ifanc yn
cystadlu am 45 o lefydd fel actorion neu weinyddwyr llwyfan. Chwaraeodd Dion ran y cymeriad Math yn y sioe. Fo, hefyd, oedd llais y cawr Bendigeidfran.
'Mae o wedi bod yn brofiad gwych,'
meddai Dion. 'Cydweithiais efo actorion profiadol o flaen cynulleidfaoedd yn Aberystwyth, Caerdydd a'r Wyddgrug."
Mae Dion yn fab i Treflyn a Sheila, ac yn frawd i Aron Elias wyneb cyfarwydd o fyd cerddoriaeth gyda'i fand poblogaidd 'Y Rei' a'i waith fel gitarydd clasurol.
'Dechreuais fy niddordeb mewn perfformio yn Ysgol Eifion Wyn,' eglurodd
Dion. 'Cymerais ran mewn llawer i eisteddfod, a chefais gefnogaeth fawr gan Mr Hughes, y prifathro.
"Dywedodd wrth fy nhad bod gennyf ddawn arbennig, ac anogodd fi i feddwl am yrfa fel actor yn y dyfodol.'
Ar hyn o bryd mae Dion yn dilyn cwrs ar gyfer darpar perfformwyr, ac yn astudio amrywiaeth o bynciau yn cynnwys actio, llais, dawns a chyfarwyddo. Ar ôl gorffen ei gwrs yng Ngholeg Menai, mae Dion yn gobeithio mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
|