Yn ddiweddar trwy law Mr Cecil Jones, ac yntau trwy law R. J. Penmorfa, cefais gopi o atgofion un o hen drigolion Porthmadog.
Cafodd yr atgofion eu dweud werth Gestfab yn 1940, gan rywun di-enw a oedd yn cofio Porthmadog fel yr oedd 60 mlynedd cyn hynny.
Cofiai'r person yma weld saith o longau newydd ar y blociau, pedair ym Mhorthmadog a thair ym Mhorth-y-gest. Byddai tua pymtheg o seiri yn gweithio ar bob llong, ac wedyn byddai nifer o weithwyr yn gwneud hwyliau a rhaffau.
Ni fyddai'n beth dieithr gweld hanner dwsin brigantîn o Newcastle yn yr harbwr -wedi dod â glo ac yn dychwelyd efo llechi.
Cofiai bedair ffowndri'n gweithio - Boston Lodge, Union, Britannia a Richard Jones. Cofiai bump iard lifio - Thomas Pam, Richard Williams, J H Williams, Robert Owen a Pierce Roberts.
O ble daeth yr holl gerrig i adeiladu tai Porthmadog tybed? Roedd o'n gwybod hynny hefyd. Adeiladwyd East Avenue o gerrig o Chwarel Tip Hwnt ir Bwlch. Codwyd tai Stryd yr Eglwys a Railway Terrace efo cerrig o Ynys Gron. Daeth y cerrig mawrion sy'n cynnal y dorau o Lôn Cei. Cofiai adeiladu ochr ddwyreiniol Snowdon St a Heol Fadog ar leoedd oedd yn gaeau a hefyd ochr y môr i Heol Newydd.
Yna maer atgofion yn sôn am yr hen forglawdd pridd a adeiladodd Madocks. Ymestynai o Tanygraig (Portreuddyn) i Farm Iard, i Ynys Hir (Ynys Madog) i Ynys Stesion (Ynys Galch) yna ar hyd y cyt cyn belled â'r Iard Lechi. Yma yn rhyfedd iawn roedd o'n troi'n sgwâr a mynd hyd at yr hyn sy'n awr yn Chapel St cyn belled â'r Capel Wesle. Pan oedd y Morglawdd wedi goroesi ei ddefnyddioldeb defnyddiwyd peth ohono i wneud mynwent capel Salem. Dyna pam bod y fynwent yn uwch na lefel y lôn.
Trwy'r dydd byddai John Jones y Ship and Castle yn arwain tri cheffyl i halio llwythi o lechi o'r Cei i seiding y Cambrian yn Penmownt.
Deuai chwech o longau o'r harbwr y tu ôl i'r Wave of Life a phedair arall y tu ôl i'r James Colney. Byddai'r ddau tug boat' yma wedyn yn hwylio am Aberdyfi neu Pwllheli neu Anersoch i nol longau eraill i ddod i nol llechi wrth y tunelli.
Roedd Pen Cei yn heidio o forwyr tramor o bob cenedl o dan yr haul. Yno roedd dau ddwsin i dafarnaun eu disychedu, digonedd o gwffio ac roedd o'n cofio morwr o Gymron cael rhwygoi wddf gan gyllell rhyw dramorwr nes ei ladd.
Yn ymyl ei gilydd yn Cornhill roedd 7 o dafarndai. Yna mae'n enwi ugain o dafarndai nad oedd yn bod bellach.
Daeth y Fox yn swyddfa i Lloyd George. Cofiai'r hanesydd yma LIG yn brentis yn Swyddfa Casson ac fe gâi ei ginio mewn ty yn Chapel St. Roedd o'n cofio hanesion hefyd am Wil Ellis. Yr oedd tipyn o wendid yn Wil a chymerai agwedd gwr mawr, pwysig. Adeg y Lecsiwn rhwng Madryn a Pennant, cynigodd rhywun swllt i Wil am gerdded y stryd gan weiddi Pennant am byth. Rhyddfrydwr oedd Wil a chefnogai Love-Jones Parry. Cymrodd Wil y swllt a gweiddi Pennant am swllt, Madryn am byth. Dal pen yceffyl, cae diolch gan y perchennog. Wil yn gofyn ble gai ei wario fo. Yn y Commercial oedd yr ateb. Aeth Wil i'r Commercial am ginio a dweud mair perchennog oedd i dalu, ac felly y bu.
Tybed atgofion pwy ywr rhain, neu pwy oedd Gestfab?