Ddiwedd Awst, ar ddiwrnod digon stormus a gwlyb, aeth y ddau ati i redeg drwy'r gwynt a'r glaw y pedair milltir ar ddeg ar hyd Lon Eifion bob cam o'r ffordd o
Fryncir i Gaernarfon. Llwyddasant i orffen y daith o fewn ychydig dros awr a hanner, amser parchus iawn.
'Mae'n bosibl fod rhedeg yn y glaw yn haws na diodda mewn haul poeth,' meddai Huw, 'mi wnes i fwynhau'r daith ond roeddwn yn falch o gyrraedd y diwedd hefyd!'
Dywedodd Simon, tad Huw, 'mae'n braf gweld hogia ifanc yn gneud defnydd cyfrifol o'u hamser ac yn gwirfoddoli i godi arian at achosion da fel hyn heb i neb ofyn iddynt. Diolch yn fawr iawn i bawb aeth ati i noddi'r hogia'.
|