91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Iwan Roberts Chwaraewyr rhyngwladol i'w anrhydeddu
Chwefror 2007
Mae chwaraewyr Rhyngwladol, yn dyddio yn ôl hyd at 1956, yn cael eu hanrhydeddu fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Ysgol Ardudwy.
Mae Mr Stuart Williams, Pennaeth yr Adran Addysg Gorfforol, yn bwriadu eu hanrhydeddu wrth greu oriel iddynt er mwyn adnabod eu llwyddiant tra yn yr Ysgol.

"Mae creu'r oriel yma wedi bod ar fy meddwl ers i mi ddechrau dysgu yma yn Ysgol Ardudwy ac mae'r amseriad yn wych gan ein bod yn dathlu banner canmlwyddiant yr Ysgol," meddai Mr Williams,

"Rwy'n edrych am gyn ddisgyblion a gynrychiolodd Cymru mewn unrhyw gamp tra'r oeddynt yn ddisgyblion yn yr Ysgol, ac nid yn unig y rhai a gynrychiolodd Y sgolion Cymru."

Y chwaraewr Rhyngwladol mwyaf enwog a fynychodd Ysgol Ardudwy yw Iwan Roberts, cyn-chwaraewr pêl-droed Leicester City, Norwich City a Chymru.

Y gobaith yw y bydd Iwan Roberts yn bresennol i agor yr oriel yn swyddogol ym mis Mai eleni.

Ddaru chi gynrychioli Cymru mewn camp tra'n Ysgol Ardudwy? Os felly cysylltwch a Mr Stuart Williams ar 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.gwynedd.sch.uk.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý