Ar y 12fed 0 Fawrth, 1903 gadawodd yr Isallt, llong newydd David Williams ar ei mordaith gyntaf o Borthmadog.
Yn ô1 y diweddar Aled Eames (Machlud Hwyliau'r Cymry), cafodd y llong hon yrfa brysur yn hwylio'n rheolaidd i'r Almaen a Newfoundland.
Ond, yn fuan ar ôl i'r Isallt adael Falmouth am Borthmadog ar Ebrill 25, 1908 bu gwrthdrawiad brawychus. Daeth yn amlwg fod yr Isallt yn suddo'n gyflym ac ni allai'r capten wneud dim i achub ei long arwahan i sicrhau bod bad y sgwner SS Atlantic yn mynd yn glir o'r llong cyn gynted ag oedd yn bosibl.
Achubwyd y criw,
gan gynnwys gwraig ifanc y Capten, diolch i wroldeb Dafydd 'French' Owen, pel-droediwr a mabolgampwr o fri.
Cafwyd bod yr SS, Atlantic ar fai, ac yn ôl cofnodion y Porthmadog Mutual Marine Insurance Club bu'n rhaid i'r perchnogion
dalu £2,393 i berchnogion yr Isallt, a bu'r
iawndal yn gymorth i'r teuluoedd Williams adeiladu llong arall i gymeryd lle yr lsallt.
Adeiladwyd yr ail lsallt (II) a lansiwyd hi yn 1908.
Bu i'r llong hon hwylio'n galed am wyth mlynedd hyd Ebrill 1917.
Rhoddodd y rhyfel ddiwedd ar y fasnach lechi a phorthladdoedd yr Almaen, ac fe werthwyd llongau Porthmadog o un i un.
Gwerthwyd yr Isallt (II) i fasnachwr pysgod yn Reykjavik, Gwlad yr lâ, ym mis Awst 1917 am £4,299, pris arbennig o dda. A'r flwyddyn ddilynol trosglwyddwyd ei chofrestriad i borthladd Boston.
Parhaodd i weithio ym masnach bysgod Newfoundland am rai blynyddoedd, ac yna fe'i gwerthwyd i Michael Cadogan, Capel Clear, Iwerddon.
Newidiwyd llawer ar
ei rig a rhoddwyd peiriannau ynddi.
Defnyddiwyd hi gan fwyaf ym masnach yr arfordir i gario glo i borthladdoedd deheuol Iwerddon, a llwyddodd i oroesi stormydd tywydd economaidd yn y tridegau.
Ond, ar Hydref 15, 1934 ar ei ffordd o Benbedw i Skibberseen gyda chargo o ki, dechreuodd ollwng dŵr mewn storm ffyrnig ger arfordir Ynys Môn, a rhoddwyd y gorchymyn i ymadael a'r llong.
Cymerwyd y criw gan fad achub Moelfre, ond llwyddodd yr Isallt i wrthsefyll ergydion y tonnau, ac yn ddiweddarach rhoddwyd y criw yn ôl arni.
Yn 1940 trowyd hi'n llong hyfforddi yn Iwerddon, a rhyddhawyd hi o'i gwasanaeth rhyfel yn 1946.
Cafodd ei churo'n dost gan dymestl o'r de-ddwyrain a gyrrwyd hi ar y lan ar Ballymoney Strand, Wexford.
Bu farw pump o'r saith oedd arni gan gynnwys un ferch.
A dyna ddiwedd Isallt (II)
Esiampl syml
o'r hyn a ddigwyddodd i nifer fawr o longau Porthmadog, rhai yn fuan iawn ar ôl eu lansio, ac eraill, yn fwy ffodus, yn llwyddo i wrthsefyll stormydd geirwon a pharhau i hwylio allan o Borthmadog a llawer i borthladd arall am flynyddoedd maith.
Mae'r hanesion am longau Porthmadog yn werth eu darllen, ac yn agoriad llygad i'r genhedlaeth bresennol.
Cychod bychan moethus sydd bellach lle bu llongau hwyliau a grwydrodd i ben draw'r byd.
Bywyd oedd mor wahanol i'n bywydau ni heddiw.
Emyr Williams