Ceffylau fyddai'n tynnu'r wagenni ddwy waith yr wythnos. Roeddent yn perthyn i fferm Croesor Fawr. Arferwn fynd gyda fy nhad i lawr at yr inclen, a byddwn yn siarad efo'r ceffylau.
Weithiau byddai'r wagenni'n llithro oddi ar y cledrau, a byddai'n rhaid iddynt weithio am oriau hir i'w hailosod. Yr adeg hynny, arferent weithio drwy'r wythnos am oriau hir a than hanner dydd ar ddydd Sadwrn. Doedd dim gwyliau ar gael ar y pryd fel sydd nawr.
Wedi i Mr Kellow symud i fyw i Cheltenham, roedd ei yrrwr, Mr Brindley, yn llosgi ei eiddo yn Bryn. Gan fod Mr Kellow wedi arfer arwain côr Croesor, roedd ei ffon arweinydd yn cael ei llosgi. Fe'i cymerwyd o'r tan gan fy nhad, ac mae'n dal gennyf, i gofio am Mr Kellow, un eboni du ydi hi.
Roedd rhai o' r pentrefwyr yn arfer teithio gyda'r wagenni ar adegau. Byddai'n haws iddynt na gorfod cerdded yr holl ffordd gyda'u nwyddau. Roedd gan fy nhad sied fawr ger Llys Helen, lle roeddem yn byw ar y pryd. Byddai'n storio nwyddau ynddi i bobl ddod i'w nol. Roedd hefyd yn cyflenwi nwyddau, fel glo, te a siwgr i'r ddwy siop yn y pentref. Dwi'n cofio roedd y pentre'n dibynnu ar fy nhad i gyflenwi nwyddau, gan nad oedd gan neb gar ar wahân i Mr Kellow, Morris Rowlands a Samuel Jones, perchennog Siop Goch.
Roedd bws Ifan Rees yn debyg i fan, gyda seddi ar yr ochrau, a lle i lwyth mawr yn y canol. Byddai'n orlawn ar nos Sadwrn yn dod o Penrhyn wedi cychwyn oddi yno tua naw o'r gloch. Daeth y chwarelwyr arni yn y bore i fynd i weithio i'r chwarel.
Roedd cyflogau'n isel iawn ar y pryd, felly roedd yn gyfnod anodd i bobl gyda phlant. Dwi'n cofio mai dim ond £1.30 yr wythnos oedd cyflog fy nhad, a hyd yn oed pe bai'n gweithio oriau ychwanegol, fyddai o ddim ond yn tua £2. Byddai dynion yn gweithio am oriau hir am gyflog isel, ond roedd yn rhaid iddynt weithio i gadw'r teulu.
Ychydig iawn o bobl sydd ar ôl! Wan i gofio'r cyfnod yma yn hanes Croesor. Dim ond Gwen ac Emrys Anwyl, a gafodd ei eni a'i fagu yma. Mae'r hen wynebau i gyd wedi mynd. Roedd rhywun o bob tŷ yn y pentref yn gweithio yn y chwarel, mwy neu lai. Ond roedd Croesor yn bentref braf iawn i fyw ynddo ar y pryd. Mae gen i atgofion dymunol iawn am y lle.
(O gyfweliad gan Adrian Barrell a'r diweddar Mrs Sali Kidd, Llanfrothen yn 1996. Diolch i Adrian Barrell, y diweddar Mrs Sali Kidd a Mrs Helen Williams, Llanfrothen).