Mae Kimberley Latch, sy'n bedair
mlwydd oed, wedi setlo'n ei hysgol
newydd yn Ysgol y Garreg, Llanfrothen, a
bellach mae trigolion y pentref wrth odre
mynydd y Cnicht yn ceisio canfod ffyrdd
o ddefnyddio'r adeilad gwag er budd eu
cymuned leol.
'Mae'n drist meddwl nad oes plant ar ôl yn y pentref i gynnal ysgol,'
Meddai Edgar Parry Williams, 75, fu'n ddisgybl ei hun yn yr ysgol ac sydd wedi
gwasanaethu fel un o 'r Llywodraethwyr
ers 53 o flynyddoedd.
'Fydd hi ddim yr un fath yma heb sŵn
yr hen blantos ar hyd y lle,' ychwanegodd.
Wrth i'r Wylan fynd i'r wasg mae trefniadau'n cael eu cwblhau ar gyfer
cyfarfod cyhoeddus yn y pentref i weld pa ddyfodol sydd i adeilad yr ysgol erbyn
hyn.
'Mae'n bwysig ei gadw gan iddo fod yn
ganolbwynt cymdeithasol i'r pentref fin
nos yn ogystal a bod yn ysgol yn ystod y
dydd,' meddai un arall dderbyniodd ei
addysg yn Ysgol Croesor, Tudur Owen,
sy'n 77 mlwydd oed.
'Yno hefyd y cynhaliwyd dosbarthiadau nos a chymdeithas fach hynod boblogaidd Croesor am ddegawdau gyda'r ysgol o dan ei sang bob
tro,' ychwanegodd.
Ers ei sefydlu yn 1873 bu dros 100 o blant yn mynychu Ysgol Croesor ar un adeg.
Yn ystod y cyfnod hwnnw cafwyd
14 o brifathrawon gwahanol gan gynnwys
y naturiaethwyr byd enwog, S J Owen, ac Ifor Owen, Llanuwchllyn, fu'n ysbrydoliaeth a
chonglfaen y comic
Cymraeg Hwyl. Bu Gwyneth Morgan, sy'n dal i fyw yn y pentref, wrth y gwaith am 35 o
flynyddoedd.
'Bu llawer i lanw a
thrai,' ychwanegodd
Edgar Parry Williams.
'Ond llwyddwyd cadw
cnewyllyn o blant yn yr
ysgol ar hyd y blynyddoedd tan rŵan.'
Bu sawl bygythiad i'r ysgol hefyd dros y
blynyddoedd ac mae Tudur Owen, sy'n
fab i'r enwog Bob Owen Croesor, yn cofio sawl ymgyrch i'w hamddiffyn.
'Roedd fy nhad yn bygwth saethu'r sawl
ddeuai i gau'r ysgol,' meddai'n
gellweirus. 'Ond y gelyn mwyaf yn y
diwedd oedd nifer y plant yn mynd i lawr i ddim.
Mae Edgar Parry Williams yn talu
teymged i gynghorwyr a'r gwleidyddion
gefnogodd yr ysgol dros y blynyddoedd.
'Roedd yna rai am ei chau cyn ei sefydlu
hi bron, ond dal ei thir wnaeth Ysgol Croesor,' meddai.
.'Roedd hi'n ddu arnom
ni ryw chwarter canrif yn ôl, ond diolch i
ddycnwch a dyfalbarhad cynghorwyr a
gwleidyddion achubwyd y dydd pryd
hynny.'
Mae Cyngor Gwynedd wedi dechrau
cyfnod o ymgynghori statudol gyda'r
golwg ar gau Ysgol Croesor yn derfynol
yn yr haf.
'Mae'n rhywbeth creulon i'w ddweud
ond y gwir amdani yw mai pentref o hen
bobl yw Croesor,' ychwanegodd Edgar
Parry Williams.
'O ganlyniad tydan ni ddim yn gwneud lle i deuluoedd iau fyw yma - teuluoedd a phlant sydd mor
allweddol i gadw drws pob ysgol yn agored.'