Disgynnodd y tymheredd i'r gwaelodion. Nododd Cadeirydd Pwyllgor Yr Wylan, Glyn Roberts, ei bod mor isel a 6c o dan y pwynt rhewi
ym Meddgelert ar lonawr 6 - oer, ie, ond heb gymharu a 22 c islaw rhewi a nodwyd yn yr Alban. Y mae hyn yn ein hatgoffa mor annisgwyl yw natur.
Gyda gaeafau mwyn yn ystod y blynyddoedd diweddar aeth barddo¬niaeth sy'n sôn am'.. .Iaw y gaeaf oer yn cloi pob nant a lIyn, A bysedd bach y coed i gyd mewn meyng gwyn, A'r adar wrth y drws yn printio'r eira'n dlws' yn ddiystyr bron ... tan eleni. 'Dyma aeaf fel y dylai o fod', meddai un o ddarllenwyr Yr Wylan.
Y mae'r oriel luniau yma yn dweud y cyfan, a'r Wyddfa yn ogoneddus o
dan ei heira. Efallai y dylem gofio, hefyd, bod newidiaeth yn y tywydd
wedi digwydd ymhell cyn ein dyddiau ni. Nododd teithiwr o'r unfed ganrif ar bymtheg i'r mynydd gael yr enw Snowdon am fod eira drosto trwy
gydol y flwyddyn; a theithiwr arall ddi¬wedd y ddeunawfed ganrif yn dweud mai gwiriondeb oedd hyn - dim ond o fis Hydref i fis Mai yr oedd yr Wyddfa
o dan eira'n barhaus, meddai. Mae
hyn yn olygfa ddieithr i ni - ac mae'n braf cael ein hatgoffa o ogoniant Eryri dan yr eira.
|