Daw'r plant i'r Ganolfan bob dydd am gyfnod o wyth wythnos ar gwrs trochi Cymraeg. Disgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd yw'r rhain a dônt o bedwar ban y sir, o'r Bala i Fethesda, o Dywyn i Aberdaron, ac er mai o Loegr y daw'r mwyafrif ohonynt, daw nifer o dramor hefyd o wledydd fel Hong Kong, De Affrica, Bangladesh ac Iwerddon.
Un wythnos yn unig sy' n weddill o'r cwrs ac maent eisoes yn parablu'n hyderus braf yn y Gymraeg.
Roedd aelodau'r dosbarth oedolion i gyd yn gytun fod y disgyblion yn wirioneddol wych. Mae awyrgylch y Ganolfan yn un gynhaliol ac mae'r dysgu'n hwyl ac yn fwynhad i bawb. Dwy athrawes yn Wlig sydd yn y Ganolfan sef Mrs Carys Lake a Mrs Elin Jones, ac maen nhw'n cyflwyno pob pwnc yn y cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg:
'Gan gofio ein bod ni wedi bod wrthi'n ymdrechu i ddysgu'r iaith ers pum mlynedd, roedd hyder y plant yma wrth siarad Cymraeg ar ôl saith wythnos yn anhygoel ac roedd eu gwaith ysgrifenedig yn destun edmygedd. Cawsom ein holi'n dwll ganddynt ac er gwaethaf ein blynyddoedd o brofiad o ddysgu'r iaith, roedd hi'n gryn her i'w hateb nhw'n iawn!
'Roedden ni ar bigau'r drain wrth feddwl am fynd yna ar y dechrau ond cawsom gymaint o hwyl ac mi wnaeth y disgyblion fynd ati i'n gwneud ni deimlo'n gartrefol ar unwaith. Diwrnod o fwynhad yn wir, dysgasom lawer a gobeithiwn y cawn wahoddiad i ddychwelyd yno eto ryw ddydd.'
Wythnos yn unig sy'n weddill o'r cwrs cyn y bydd y disgyblion yn dychwelyd i'w hysgolion eu hunain. 'Dymunwn yn dda iddynt a gobeithiwn y bydd y mwynhad y maent wedi ei gael wrth ddysgu Cymraeg yn fodd i annog eu teuluoedd i wneud yr un peth.'
Suzanne Millard (dysgwraig)
|