Mewn dwy awr o hwyl, rhialtwch a chân cyfareddwyd y dorf am dair noson yn olynol yn y Ganolfan ym Mhorthmadog gan lyfnder y perfformiadau, safon y talentau lleol a bwrlwm y chwarae.
Hwn oedd y trydydd pasiant yn olrhain hanes Porthmadog o adeiladu'r cob ddau gan mlynedd yn ôl.
'Lle Bu'r Dŵr' oedd teitl y cyntaf a 'Lle Bu'r Blacowt' oedd teitl yr ail.
Ond sioe'n canolbwyntio ar leoliadau, digwyddiadau ac unigolion fu'n allweddol eu dylanwad ar y dref yn
ystod pumdegau, chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf oedd y pasiant diweddaraf gan ddwyn yr enw addas a phriodol, 'Lle Bu'r Miri'.
Mewn deuddeg golygfa gofiadwy portreadwyd y gwych a'r gwachul, yr hwyl a'r siom, y camp a'r rhemp.
Cyflwynwyd y cwbl drwy lygad dwy wraig leol, Phoebe a Bet, neu Glenda Burke ac Eirian Quaeck i chi a mi.
Eirian gydag un o leisiau mwyaf trawiadol y sioe i gyd a Glenda, fel arfer, yn profi ei dawn gynhenid ddoniol gan beri chwerthin gyda'r ystum leiaf.
Aeth y golygfeydd a ni drwy ddyddiau cynnnar y diwydiant ymwelwyr yn lleol cyn i'r holl fisitors 'na ffendio'r lle' a'r bygythiadau ddaeth yn sgil hynny o gyfeiriad hapfasnachwyr a datblygwyr di¬egwyddor. Galarwyd o golli'r hen 'town hall' a chafodd trafodaethau'r Cyngor Tref ar y mater eu cyfleu i'r byw!
Ond er gwaetha'r bygythiadau ac er gwaetha siomedigaethau'r cyfnod cod odd pobol Porthmadog uwchlaw'r cwbl. Roedd y dre'n dan o
weithgaredd.
Wedi'r cwbl dyma fu oes aur y Clwb Pel-droed.
Dyma fu cyfnod y pictiwrs a'r Coliseum o dan ei sang.
Dyma fu dyddiau'r Cob Caffi a dyddiau Dino and the Wildfires.
Ond yn fwy na dim dyma hefyd fu dyddiau Carnifal Port a'r cystadlu brwd am wobr y stryd wedi'i
haddurno orau ymysg peth myrdd o .
ornestau eraill. Dyddiau difyr yn wir.
Yn yr un modd y buddugoliaethau
ddaeth i ran y dref gyda phrynu'r Cob o grafangau Stad Tremadog gyda'r mwyaf arwyddocaol ohonynt i gyd.
A do, fe gafodd y cwbl, a mwy, eu cynnwys
Glenda Burke, Phyllis Evans a Gwenda Paul roddodd bin ar bapur gan lunio sgript a chaneuon effeithiol a chofiadwy.
Camp Rhys Glyn oedd cyfansoddi'r gerddoriaeth a Gwenda Roberts ysgwyddodd y cyfrifoldeb o droi'r deunyddiau crai hynny ynghyd a thros hanner cant o oedolion a bron i 150 o ddisgyblion ysgolion ardal Porthmadog yn sioe lwyfan fythgofiadwy.
Campwaith heb os.
O ran cast roedd nifer fawr ohonynt yn hen' stejars' ac ar eu trydydd pasiant. Bu cyfraniadau prif gymeriadau megis Gareth Connick, Tudur Puw a Gwenno Huws yn amhrisiadwy i lwyddiant y tri chynhyrchiad fel ei gilydd.
Ond roedd wynebau newydd hefyd y tro hwn ac roedd lleisiau cyfoethog Jon Murray a Jeremy Davies yn gyfraniadau nodedig.
A phwy fydd fyth bythoedd yn anghofio ymddangosiad Dino (Eirwyn Pierce) ei hun i'r llwyfan?
Disgyblion Ysgol Eifionydd oedd y Wildfires erbyn hyn oed roedd Dino yn ei elfen fel arfer ac yn ei moria hi.
Syniad da oedd cael Dino yn actio ei hun fel ag yr oedd o hanner can mlynedd yn ôl ac mi weithiodd y syniad yn wych.
Gresyn rhywsut na fyddid wedi gwneud yr un peth gyda dau neu dri o'r cymeriadau eraill hefyd.
Buasai cael Maldwyn Lewis a Bryan Rees Jones eu hunain ar y llwyfan yn yr olygfa'n ymwneud a phrynu'r Cob wedi bod yn glasur!
Ond manion yw hynny. Fel cyfanwaith ni welwyd ei well. Roedd 'Lle Bu'r Miri' yn adloniant pur o'i ddechrau i'w ddiwedd.
Ond yn fwy na
dim roedd y cwbl yn profi beth all
cymuned ei wneud a'i wneud yn dda. Miri Moes Mwy.