Yn 1971 bu un o'r brwydrau mwyaf cyffrous yn hanes Porthmadog. Ceisiodd yr Ystad gael yr hawl i reoli Harbwr Porthmadog. Perswadiodd pump o'r aelodau Gyngor y Port i alw Cyfarfod Cyhoeddus i herio'r Ystad. Yn y cyfarfod haerodd un siaradwr mai Gwaed a chwys chwarelwyr 'Stiniog a dewrder morwyr Eifionydd fu'n cario'r llechi i bedwar ban byd a dalodd am yr Harbwr. Eu plant hwy biao fo.' Gorymdeithiodd cannoedd o bobol yr ardal drwy'r dref. Er i'r Ystad ennill y dydd yn y Ty Cyffredin fe gostiodd yn ddrud iddynt mewn costau cyfreithiol. Yn ddiweddarach cytunasant i werthu hawliau'r harbwr i Gyngor Dwyfor. Yna cafwyd y syniad o herio eu hawl i godi tollau ar gerbydau a lorïau. Cafodd Madocks ganiatâd o dan ddeddf 1807 i godi toll ar goets fawr, gig, landau, ceffyl, trol, defaid a moch ayb, ond nid ar geir na lorïau gan nad oedd sôn amdanynt y pryd hwnnw.
Awgrymodd Mrs Valerie Wyn Williams (cyn-reolwr Theatr Harlech) i'w ffrind Mary Geoghan y buasai yn syniad da i Fermoy gwrdd â Maldwyn Lewis am sgwrs. Cytunodd yntau ar yr amod fod y cyfan yn gyfrinachol. Rhoddodd Dafydd Wigley AS fenthyg ei swyddfa yn y Ty Cyffredin i Fermoy a Maldwyn i gynnal cyfarfodydd a dechrau trafod.
Yn ystod y trafodaethau dywedodd yr Arglwydd Fermoy y buasai profi fod ganddynt hawl i godi ar geir ayb yn debygol o gostio cannoedd o filoedd o bunnau a'u bod wedi penderfynu gwerthu'r Cob, Cob Crwn a'r Dollborth. Dechreuwyd bargeinio. Yn y cyfamser gofynnodd Dafydd Wigley i Lywodraeth Lafur y dydd brynu'r eiddo. Gwrthodasant oherwydd bod y gost debygol tua £500,000.
Cytunodd Bryan Jones i ymuno â Maldwyn yn y trafodaethau. Cafodd y ddau gyfaill sgwrs gyda chynghorwyr eraill Plaid Cymru, sef Emlyn Jones a Dafydd Wyn Jones. Ar y dechrau roeddent hwy yn amau mai tynnu eu coes oedd y ddau arall ond rhoesant eu cefnogaeth frwdfrydig i'r syniad o brynu. Esboniodd y ddau gyfaill i'r Arglwydd Fermoy a'i chwaer Mary Geoghan eu bod yn bwriadu ar ôl prynu'r eiddo greu Elusen i rannu'r elw bob blwyddyn i gymdeithasau lleol.
Roedd Fermoy a'i chwaer yn amlwg yn hoffi'r syniad. Cytunwyd yn y diwedd ar bris o £45,000. Gwahoddodd Bryan a Maldwyn y diweddar Tudor Griffiths a Joseph Lewis atynt i greu Elusen fel y gellid rhannu'r elw blynyddol i gymdeithasau a mudiadau yn ardal Cynghorau Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.
Galwyd yr Elusen yn Rebecca er cof am y dewrion gynt fu ar eu ceffylau ac yn gwisgo ffrogiau merched yn llosgi tollbyrth. Rhannwyd taflen i bob ty yn esbonio'r syniadau.
Yn 1983 ar ôl clirio'r ddyled cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Y Ganolfan i ofyn i'r cyhoedd a oeddynt eisiau dileu y doll ai peidio. Bu dadlau brwd ond penderfynwyd trwy fwyafrif sylweddol i gario ymlaen a pharhau i rannu arian yn flynyddol i gymdeithasau yr ardal. Ers 1978 rhannodd Ymddiriedolaeth Rebecca dros £170,000 i fudiadau lleol. Bu cynrychiolwyr Cynghorau Gwynedd, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog yn ymuno â'r Ymddiriedolwyr i benderfynu pwy a dderbyniai roddion a'r swm. O'r dechrau yn 1978 bu'r Cynghorwyr Aled Ellis ac Islwyn Morris yn bresennol.
Ar ôl tair blynedd o drafod cynigodd y Cynulliad brynu'r Cob, Cob Crwn a'r hawl i godi tollau am gyfanswm o £220,000. Ers y cafodd y Cob ei ledu y mae yn beryclach i'r staff sefyll ynghanol y ffordd i hel yr arian. Oherwydd hefyd nas gellir codi mwy na 5c yr oedd yn mynd yn anoddach i gynhyrchu yr un elw bob blwyddyn. Derbyniodd Ymddiriedolwyr Rebecca gynnig y Cynulliad. Bydd gwaith yr Elusen yn parhau fel o'r blaen. Fe fuddsoddir yr arian a dderbyniwyd a rhannu'r incwm a gynhyrchir i gynnal mudiadau lleol. Dyma'r Elusen felly yn ysbryd Merched Rebecca wedi dileu Tollborth a hefyd llwyddo i gyfrannu at weithgarwch cymdeithasol yr ardal am flynyddoedd i ddod.
Hoffai'r Ymddiriedolwyr dalu teyrnged a diolch i Eirabeth a Richard fu'n gweithio ymhob tywydd ers yr holl flynyddoedd yn casglu tollau ac am wneud y gwaith yn frwdfrydig a chyda gwên bob amser. Diolch hefyd i Bryn, Elfyn, Hywel a'r holl rai fu'n gweithio yn y Cob ers 1978.
Dymuna Rebecca ddiolch i bawb a dalodd y tollau yn gydwybodol heb rwgnach er budd y gweithgarwch amrywiol yn ardal y Penrhyn a'r Port.