Mae dathlu hefyd ar Reilffordd yr Ucheldir, hwythau yn dathlu 25 mlynedd o fod mewn bodolaeth dan y rheolaeth bresennol, felly bydd cynrychiolaeth deilwng o'r rheilffyrdd hyn yn yr arddangosfa. Yn ychwanegol bydd gosodiadau yn cynrychioli'r trenau sy'n rhedeg ar gledrau o led arferol. Yr arddangoswr ieuengaf fydd David Jones sydd yn 13eg oed ac yn dod o'r Hôb yn Sir Fflint. Ganwyd ei dad ym Maentwrog ac mae ei daid a'i nain yn byw yn Nhalsarnau. Yr arddangoswyr lleol fydd Alun Roberts a Glenn Williams o Benrhyndeudraeth, John Parkinson o Flaenau Ffestiniog a Paul Towers o Borthmadog. Enillodd Glenn 'Dlws Livingstone Thompson' am ei ddawn arbennig o lythrennu. Daw y gweddill o'r arddangoswyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Bydd cyfanswm o 24 o osodiadau gan gynnwys gosodiad o'r Dduallt a'r gwyriad, hefyd dau osodiad o Reilffordd Borth y Gest a Rhydyclafdy yr ystyriwyd eu hadeiladu. Dichon na fyddai'r cynllun wedi'i wireddu. Yn ogystal bydd 10 stondin gwerthu modelau, llyfrau rheilffyrdd, ac eitemau perthnasol. Cynhelir yr Arddangosfa yn y 'Ganolfan Hamdden', Porthmadog ar Sadwrn, 6ed o Awst o 10.30 yb hyd 5 yh ac ar y Sul 7fed o Awst o 10.30yb hyd 4 yh. Tâl mynediad fydd oedolion £4, plant a dinasyddion hŷn £3. Dewch yn llu i fwynhau'r wledd, bydd croeso twymgalon yn eich aros a bydd digon o le i chwi barcio'r car. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Rheolwr yr Arddangosfa, Vaughan Jones ar 01766 522739.
|