Ond mae yna stori tu ôl i'r rhodd hon. Wedi derbyn comisiwn, yr oedd o, gan Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau i drefnu arddangosfa i ddarlunio a phortreadu'r hyn sy'n digwydd yn Eryri. Cafodd Elfyn artistiaid eraill i arddangos eu gwaith: Rob Piercy fel un sy'n gweithio yn y fro, ac artistiaid o'r Alban a Phatagonia sy'n byw mewn mannau efo'r un math o broblemau a ninnau. Roedd y seddau y sonnir amdanynt yn rhan o'r arddangosfa lle y gallai pobl eistedd a thrafod yr hyn a welent.
Ar y llawr o'u blaenau roedd enwau adar a choed a hefyd lysenwau pobl o'r Port. Wrth i wythnos yr Eisteddfod fynd yn ei blaen a phobl yn cerdded dros yr enwau byddid yn tynnu rhai enwau i ffwrdd. Teimlai'r artist mai fel yna y mae pethau'n diflannu a neb yn cofio amdanynt. Byddai'r seddau efo enwau pobl
arnynt yn cadw cof pobl yn fyw. Mae un o'r seddau ar Cob Crwn efo'r ysgrifen: John Charles - un o'r Cewri 19312004. Mae'r sedd a welir yn y llun efo'i stori hefyd. Un o'r Iseldiroedd oedd ei Anti Jinny, fel y galwai Elfyn hi. Roedd hi wedi bod yn garcharor rhyfel ac yn ffoadur ond wedi dod i Gymru fe briododd a thoddi i'r gymdeithas, a chael ei hadnabod fel Jinny Dutch. Mae hyn yn ddrych o'r hyn sy'n digwydd yn ein cymdeithas yma yn Eryri. Fe hoffai Jinny Dutch eistedd wrth yr Harbwr a dyna lle mae'r sedd hon. Gobaith Elfyn yw y bydd pobl yn dod ac eistedd ar y fainc gan sgwrsio am yr hyn a welant gan gadw'r hen enwau a geiriau yn fyw.
|