Oherwydd dyna'r diwrnod y cyrhaeddodd teithwyr y pentref mewn trên am y tro cyntaf ers rhagor na 70 mlynedd.
Mawr fu'r disgwyl a mawr fu'r rhialtwch wrth i Rowland Doyle o Borthmadog lywio'r
ddwy injan stem, a fewnforiwyd o Dde
Affrica, gan dynnu'r cerbydau i orsaf fu'n ddi-drenau cyhyd.
Roedd hi awr yn hwyr fel
mae'n digwydd a fandaliaeth ar y lein gafodd y bai am hynny.
Hwn oedd cam diweddaraf ail agor rheilffordd fu heb drenau yn teithio arni ers 1937.
Cymerodd y daith gyntaf o Gaernarfon i Feddgelert, gyda'i golygfeydd godidog, ddwy awr ac ugain munud.
Cafwyd protest fach dawel ond effeithiol gan wrthwynebwyr ail agor rheilffordd fydd yn 24 milltir o hyd wedi'i gorffen ac yn costio £28m.
Ond at ei gilydd
diwrnod o ddathlu gafwyd wrth i ddegau o
bobl Beddgelert ddringo ar y trên ar gyfer taith fer am ddim i Ryd-ddu ac yn ôl - gyda John Pritchard, Hafod Ruffydd, sy'n 93 mlwydd oed, yn eu plith.
'Rwy'n cofio'r trên gwreiddiol yn cludo pobl a nwyddau yn ôl ac ymlaen i'r ardal,' meddai. 'Rwy'n edrych ymlaen yn arw i ail-fyw hen brofiadau heddiw.'
Cam nesaf Cwmni Rheilffordd yr Ucheldir fydd agor y lein cyn belled a Hafod y Llyn ac yna cwblhau'r deng milltir fydd ar ôl i Borthmadog yn ddiweddarach yn y
flwyddyn.
Drwy gysylltu yno a Lein Fach Ffestiniog, bydd y daith drên 40 milltir rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog y
daith annibynnol hiraf yng Ngwledydd Prydain.
|