"Mae'r siop yma wedi cael ei rhedeg gan fy nhaid, fy nhad a minnau ac mae'r ferch yn helpu yma r诺an hefyd.
"O Nottingham roedd fy nhaid yn dod. Roedd yn gricedwr proffesiynol a ddaeth yma i chwarae i d卯m Porthmadog. William Pike oedd ei enw, fel finna.
"Pobl y st芒d - y gentry lleol - wnaeth ofyn iddo ddod yma i chwarae. Mi fuodd yn dysgu criced ym Mhwllheli wedyn ac, ar 么l i'w amser fel cricedwr ddod i ben, mi helpwyd o gan y gentry i brynu'r siop yma yn 1902.
"Mi ddaru fy nhaid fagu pump o blant yn y seler o dan y siop yma. Roedd fy nhad yn dair oed pan ddaeth y teulu yma i fyw ac mi briododd o yn lleol. "Mae'r 'Pike Trophy' yn dal i gael ei roi i'r t卯m gorau yn league criced yr ardal.
"Tobacconist oedd y siop i ddechrau - doedden nhw ddim yn gwerthu da da o gwbl. Ond mi aeth gwerthiant sigar茅ts i lawr. Roedd 27 o siopau'n gwerthu sigar茅ts yma ers talwm ond dim ond tair sydd r诺an. 'Da ni'n gwerth papur a da da a phob math o betha yma r诺an. 'Da ni'n dal i bwyso 'baco ar y glorian - mae owns (25g) yn costio 拢3.90.
"Rydan ni hefyd yn gwerthu cetynnau a sigar茅ts. Ers talwm roedd dwy neu dair siop yn gwerth range reit dda ond erbyn hyn mae na ambell un yn dod yma o Birmingham i brynu 'baco a chetyn gan fod gymaint o siopau 'baco bach wedi cau r诺an. Ac ydw - mi rydw i'n smocio hefyd!"
|