| |
|
Zufall Tair drama Gymraeg a thair Saesneg gan gwmni 3D
Adolygiad Gwyn Griffiths o Zufall gan Gwmni Theatr 3D. Canolfan Chapter, Caerdydd. Ebrill 29, 2008.
Yn unol â honiad Cwmni Theatr 3D y mae cyflwyno tair drama Gymraeg - a'r rheini heb fod yn rhai byr iawn - ar un noson yn dipyn o her.
Ychwanegwch dair drama Saesneg at hynny a dyna dalp sylweddol o weithgarwch celfyddydol.
Dyna gamp y prosiect Zufall - gair Almaeneg sy'n golygu 'ar siawns' -yng Nghanolfan Chapter yr wythnos hon.
Yr oedd y noson gyntaf, Ebrill 29, gyda'r tair Gymraeg yn un hwyliog ryfeddol. Y theatr yn llawn a graen ar y perfformiadau. Dramâu ysgafn gyda thipyn go lew o waelod iddyn nhw yn rhoi noson o fwynhad pur.
Helbulon carwriaethol Comedi am helbulon carwriaethol Mari a Llwyd, cyfryngis ifanc ar i fyny'n chwilio'n barhaus am gariad yw Mr Perffaith gan Joanna Davies.
O na! Nid drama arall am y byd teledu Cymraeg, medde chi a dyna oedd fy ymateb cyntaf innau - ond mae hon yn dda ac yn ddoniol.
Ydy pobol ifanc, mewn difri, mor uniongyrchol a hyn y dyddiau yma? Fel y dywedodd Llwyd, be ddigwyddodd i foreplay? Eto, yr un yw ansicrwydd yr ifanc ymhob oes.
Dod yn ail Cafodd drama Lleucu Sion, Lle bu Dau yr ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Shir Gâr, y llynedd - sy'n gwneud imi feddwl, mae'n rhaid bod y ddrama ddaeth yn gyntaf yn un arbennig iawn, os mai ail oedd hon.
Sgwrs sydd yma rhwng dau ar y cei yn nhre'r Cofis yn edrych draw tuag at Ynys Môn.
Mae Cynthia'n ganol oed a Gavin yn 19 ac yr ydym yn y cylch parhaus hwnnw sy'n nodwedd o rai o ddramâu Gwenlyn Parry.
Cynthia'n sôn am ei bywyd llwydaidd a hen gyfleon a gollwyd o ddiffyg ymdrech ac uchelgais.
Er gwaetha'i jôcs a'i ffraethineb, mae Gavin i bob argoel, yn mynd i'r un fagl a Cynthia'n ceisio rhoi rhyw broc iddo i anelu at rywbeth gwell. Oes modd newid y dyfodol ar sail un sgwrs? Na yw'r ateb, mae'n debyg.
Mae'r ddeialog yn dda, cawn actio deallus gan Elin Wmffras a Glenn Jones, ac y mae tipyn o sylwedd i'r ddrama.
Cyfieithiad Mae Cefnau a Chynffonnau - sef cyfieithiad o Cocks and Tales Alastair Sill - yn ddifyr a doniol.
Lleolir y ddrama hon mewn swyddfa ar ddiwrnod pan fo'r server rhyngrwyd wedi methu a dim gan neb i'w wneud ond siarad yn ddi-baid. (Clywais am swyddfa lle'r aeth y sustem i lawr am wythnos gyfan, wythnos diwethaf!)
Yr unig beiriant sy'n gweithio yw'r shredder ac y mae Charmaine (Elin Leyshon) bron yn ei gynnig fel rhyw therapi i'r lleill wrth iddynt nesau at wallgofrwydd.
Mae'r ddeialog yn gampus - ond pam na chawson ni wybod pwy yw'r cyfieithydd? Haeddodd ef neu hi glod arbennig.
Dyma fyd syrffedus y swyddfa naw tan bum lle mae'r amser fflecsi'n dduw a'r bydysawd yn troi o gwmpas e-byst. Mae yma dro bach yn y gynffon, hefyd.
Mae'n werth cyfeirio'n arbennig at safon yr actio oedd yn gyson ardderchog ac o blith y rheini canmoliaeth arbennig i Aled Wyn Thomas - Llwyd yn Mr Perffaith a Dyl yn Cefnau a Chynffonnau - ac Elin Leyshon, Sara yn Mr Perffaith a Charmaine yn Cefnau a Chynffonnau.
Ceir ail berfformiad o'r dramâu yn Chapter 30 Ebrill a dwy noson o ddramâu Saeneg 1 a 2 Mai.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|
|