91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ty ar y TywodTÅ· ar y Tywod
Ffair heb ddiflastod na gwagedd
Adolygiad Nic Ros o gynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o TÅ· ar y Tywod gan Gwenlyn Parry.

"Mae nifer o bobl yn byw mewn ystafell gaeedig, di-aer. Mae rhywun (o'r mynyddoedd neu o'r môr) yn cyrraedd sy'n taflu'r ffenstr yn agored. Mae pawb yn cael annwyd pen ac mae'r llen yn disgyn."

Mae condemniad enwog a doniol Somerset Maugham o waith cyfnod canol Ibsen - cyfnod TÅ· Dol a Dychweledigion - yn pwysleisio tueddiadau clasurol y dramodydd o Norwy.

Y byd bygythiol hwn y tu allan yw un o'r elfennau sy'n cysylltu Ibsen â Pinter a Parry, yn enwedig felly y tair drama hir gyntaf.

Rheibiwr ar y rhiniog
Mae'r rheibiwr ar y rhiniog mor nodweddiadol o Saer Doliau, TÅ· ar y Tywod ac Y Ffin ag yw o The Birthday Party a The 91Èȱ¬coming, Pinter.

Er y pwyslais ar yr abswrd wrth ddadansoddi ei waith, mae yma'n aml gynllwyn hollol glasurol.

Un o'r peryglon sydd ynghlwm wrth y clasuron yw'r duedd i bob dim ddigwydd oddi ar y llwyfan, ond mae Gwenlyn yn osgoi gwneud hyn oherwydd ei ddefnydd caboledig o ofod y llwyfan, gyda'i ddatblygiad (neu'n hytrach ddirywiad) o'r llwyfan yn ddrych i'r meddwl a'r enaid.

Dafydd Dafis Mae enwau cyffredinol y cymeriadau yn Tŷ ar y Tywod - Gŵr y Tŷ, Gŵr y Ffair - yn arwyddocaol gan nad oes iddynt yr un cymhlethdod cymeriadol ac a geir yn Ifans (Saer Doliau) ac yn Now a Wilias (Y Ffin).

Haniaethiad y cymeriadau sy'n cyfiawnhau fersiwn aml-haen Ceri Sherlock i Theatrig dau ddegawd yn ôl, lle y tynnwyd i'r wyneb yr is-themâu gwleidyddol a chymdeithasol megis perchnogaeth dynion ar ferched.

Nid yw fersiwn y Theatr Genedlaethol yn ddehongliad radical mewn unrhyw ffordd, ond y mae'n llwyfaniad effeithiol tu hwnt sydd, yn hollol wahanol i nod ac amcan Sherlock, yn dangos ac egluro'r ddrama.

Ymrafael oesol
Mae datblygiad cynllwyn Tŷ ar y Tywod yn ogystal â'i chymeriadau yn medru peri dryswch ond, yng nghanol elfennau abswrd a haniaethol Gwenlyn, mae yna ymrafael oesol rhwng yr hen werthoedd a'r newydd, rhwng y synagog a'r dafarn.

Fel ag yng ngwaith cynnar Pinter cynhelir y ddrama gan yr ornest am bŵer fydd â chanlyniad eithafol neu farwol.

Yn rhagorol
Er gwaethaf ambell lithriad geiriol o du Dafydd Dafis, roedd yntau a Johnathan Nefydd fel y ddau benben a'i gilydd yn rhagorol.

Wrth gastio'n gymharol ifanc roedd perygl i Wr y Tŷ fethu meddu ar y pathos amlwg a berthyn i holl brif gymeriadau hŷn Gwenlyn, sy'n sôn am ddiwygiad tra'n ymgorffori'r dirywiad.

Dyma felly un o berfformiadau mwyaf Nefydd, i'w osod gerbron Sundance, ac yma eto dangosodd ei allu anhraethol i fynnu sylw llwyr ag yntau ar ei ben ei hun ar lwyfan.

Fel yn y perfformiad hwnnw mae perygl iddo fynd dros ben llestri a throi'r elfennau comic yn gymeriadu ystrydebol, ond yma mae wedi ei gyfarwyddo'n gytbwys.

Cam gwag
Prawf o lwyddiant y cynhyrchiad fel cyfanwaith yw nad effeithiodd y camgastio yn ormodol ar y mwynhad.

Mae'n hollol bosib y bydd Dave Taylor yn cynnig llawer o berfformiadau gwefreiddiol yn y dyfodol, ond roedd ei gastio fel colbiwr yn gam gwag ofnadwy, gyda'r Delw yn dangos mwy o fygythiad!

Ar nodyn mwy positif, addawol iawn oedd perfformiad Mared Swain fel Y Ferch.

Siomedig a thila
Yn gam neu'n gymwys, ac er gwaethaf ein cenedl o bentrefi, bydd llwyddiant y Theatr Genedlaethol yn ddibynnol yn bennaf ar ei gallu i lenwi'r llwyfannau mawr.

Roedd yn Theatr Gwynedd nos Sadwrn Ebrill 30, dorf siomedig o dila, ond roedd yna ddrama fawr ar thema oesol (neu ar nifer ohonynt), ac roedd y set, hithau, yn ysblennydd, gyda chynllunio di-gyfnod Laura Hopkins yn dwyn i gof dirluniau trawsnewidiol yr athrylith Americanaidd Robert Wilson.

Nid oedd ots mai cwt digon tebyg i un Y Ffin sydd i fod yma.

Gwelwyd yn glir y rhwd lle roedd heli'r môr wedi gwneud ei farc, a chyda'r set gyfan wedi ei osod ar ongl megis y tŵr Eidalaidd, bregus iawn oedd ei olwg, gyda'r Ffair yn bygwth o'r tu cefn.

Roedd y trawsnewidiad personau yn cael eu adlewyrchu'n berffaith gan y llun llwyfan, ac wrth i'r TÅ· droi'n Ffair roedd y newid yn gyfareddol.

Theatigrwydd y gwaith
Ychydig o flynyddoedd yn ôl cyflwynwyd ar Radio Cymru addasiadau coeth iawn o ddramâu Gwenlyn.

Y cwestiwn sydd yn anorfod yn codi yn sgil llwyddiant y fath fenter ydy'r un ynghylch theatrigrwydd ei waith.

Yma roedd ateb cadarnhaol digamsyniol.

Roedd i'r cynhyrchiad hwn - fel y ddrama - ei frychau, a rhai o'r rhain yn cael eu rhannu rhyngddynt, megis diffyg cysondeb yng nghonfensiwn y Ddelw.

Serch hynny, fe gafwyd perfformiad nad oedd yn ddiflas, gyda dim ond ambell gyfnod rhy dawel yng nghanol yr ail act.

Roedd y cyfarwyddo'n fedrus ac yn gyffredinol gynnil.

Nid "ffair wagedd" a gafwyd y tro hwn.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý