|
Yn y Ffrâm 'Actio cryf mewn cynhyrchiad cryf'
Adolygiad Fiona Elias o Yn y Ffrâm. Talaith y Canolbarth, Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd. Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Gorffennaf 11, 2008.
Noson mewn amgueddfa
Ar ddiwedd wythnos hir o ddysgu, a diwedd y tymor yn agosáu ond yn dal i deimlo fel oes cyfan i ffwrdd, y peth olaf roeddwn i eisiau ei wneud oedd treulio nos Wener mewn amgueddfa.
Ond, dyna'n union wnes i, nos Wener, Gorffennaf 11, a rhaid cyfaddef imi fwynhau'r ymweliad yn fawr!
Roedd hon yn amgueddfa ddiddorol a phrysur iawn. Cefais fy arwain o amgylch gan y tywyswyr brwdfrydig, ac roedd yn hyfryd gweld yr amgueddfa mor llawn.
Yno, ar yr un noson a mi, roedd Mr a Mrs Charles a Heti Jones, criw siaradus a byrlymus o Ferched y Wawr, oddeutu 10 disgybl ysgol, Iolo'r artist a'i grŵp o ddilynwyr, y ddau feddwyn - a hyn dim ond i enwi llond llaw.
Wrth gwrs, nid ymweld ag amgueddfa go iawn wnes i ond, yn hytrach, gwylio perfformiad talaith y Canolbarth o'r ddrama Yn y Ffrâm gan Catrin Dafydd.
Roedd 38 o bobl ifanc a thalentog yn y cast; rhai ohonynt yn amlwg wedi teithio cryn bellter ar gyfer yr ymarferion, a hyn yn dangos eu hymrwymiad i'r cwmni a'u brwdfrydedd i berfformio.
Hoelio sylw Wedi i ni'r gynulleidfa brynu ein tocynnau a sefyll am ychydig yn sgwrsio a hwn â'r llall, cawsom ein tywys i'r "amgueddfa" ac, o'r funud honno, roedd fy sylw wedi ei hoelio ar y perfformiad syml ond slic yma.
Roedd awyrgylch eithaf sinistr wrth i'r ddrama ddechrau, gyda'r cast yn cerdded yn llechwraidd i'w safleoedd i gyfeiliant ffliwt, a'r mwg yn ychwanegu at y tymer priodol.
Dechreuwyd y perfformiad gyda'r cast cyfan yn llefaru a chanu, a'r geiriau yma'n ymddangos yn rheolaidd trwy'r perfformiad.
Fel sydd wedi'i gasglu'n barod, drama wedi'i lleoli mewn amgueddfa yw hon, ac yn y bôn y neges mae Catrin Dafydd yn ei chyfathrebu trwy'r digwydd a'r ddeialog yw'r hyn sydd yn digwydd mor aml yn ein cymunedau a'n siroedd yn ddiweddar, sef moderneiddio a newid.
Tro ar fyd Trwy lygaid y tywyswyr, cawn gipolwg o'r hyn sy'n digwydd yn yr amgueddfa'n feunyddiol a'r math o bobl sy'n galw yno. Cofiwch, nid pawb sy'n dod i'r amgueddfa ar gyfer y rhesymau iawn!
Ond, daw tro ar fyd pan fo'r ddau gynghorydd yn galw draw i weld Mrs Davies, y rheolwraig, a mynnu bod angen newid, a hynny gydag 'N' fawr!
Gwneud y busnes yn fwy llwyddiannus, a bod yn fwy trefnus.
Pwy yw'r un fydd yn gallu achub yr amgueddfa a'i newid er gwell? Neb llai na'r rheolwr newydd, Alan Fisher.
Er ei fod yntau yn siarad Cymraeg, mae ganddo acen Seisnigaidd ac mae'n fwriad ganddo weddnewid yr amgueddfa'n gyfangwbl.
Mae'n gosod rheolau newydd; iwnifform newydd i'r staff, offer gwrando am £10 yn hytrach na gwasanaeth y tywyswyr , dim bwyta (trychineb mawr i Charles a Heti Jones!) ac yn bendant does dim croeso i'r henoed eistedd o amgylch yn gwneud dim.
Rhaid i bawb symud o amgylch y lluniau fel peiriannau, does dim amser i stopio, edrych a gwrando.
Ddim yn llwyddiant
Wedi'r agoriad swyddogol mawreddog, gwario'r holl arian er mwyn gwneud mwy o elw - gydag 'E' fawr wrth gwrs - mae'n gwbwl amlwg nad yw'r ffordd fodern, newydd yn llwyddiant.
Rhaid ffarwelio â Fisher a daw Mrs Davies yn ôl i'r amgueddfa ac wrth iddi godi'r allwedd oddi ar y llawr mae hynny'n symbol clir o'r hen ffordd o fyw yn trechu'r newydd.
Diweddglo gobeithiol sy'n rhoi hyder i gymaint o bobl sydd yn brwydro yn erbyn newid a moderneiddio - cau ysgolion bychain, cymunedau gwledig yn colli eu swyddfeydd post - ac hefyd yn ddiweddglo, i bobl fel y cynghorwyr i gnoi cil arno, y rhai hynny sydd mor barod i wneud penderfyniadau fel hyn er mwyn arbed arian, a gwneud mwy o elw, ond nad ydynt wir yn sylweddoli'r effaith hir dymor.
Yr actio
Teimlaf bod nifer o gryfderau i'r perfformiad yma ac un ohonynt oedd safon yr actio. O ystyried oedran y cast gwelwyd enghreifftiau o gymeriadu cryf a chredadwy a phob actor yn defnyddio'u lleisiau'n effeithiol.
Er nad oedd 'prif ran' roedd gan Gethin Lewis, un o'r tywyswyr, ran allweddol.
Ef oedd un o'r rhai cyntaf i'n croesawu i'r amgueddfa ac ef hefyd oedd gyda'r olaf i ffarwelio â ni.
Roedd yn sicr iawn yn ei ran ac roedd yn siarad yn ddiddorol.
Camp anodd oedd gyda Guto Ifan a Elliw Dafydd, sef portreadu cymeriadau Charles a Heti Jones, y cwpwl oedrannus ac roeddwn wedi fy llwyr argyhoeddi gyda'r actio gyda'r ddau yn defnyddio eu cyrff a'u hystumiau'n briodol ac effeithiol.
Roeddwn wedi gwirioni gyda'r criw o Ferched y Wawr. Credadwy a doniol yw'r ddau air mwyaf addas i'w disgrifio!
Er mai ond llinell neu ddwy oedd gan rai aelodau o'r cast yn y perfformiad, roeddent yn actio gydol yr amser a nifer o'r actorion ifanc yn dangos emosiwn eu cymeriad yn gwbwl glir drwy'r wyneb a'r corff.
Ar y llwyfan Cryfder arall oedd y modd roedd y cast wedi eu gosod ar y llwyfan. Gwnaethpwyd y defnydd gorau o'r gofod actio ac roedd yr actorion yn symud o amgylch y llwyfan yn gyson a slic.
Wrth i sefyllfaoedd unigol gael eu cyflwyno i'r gynulleidfa, roedd gweddill y cast wedi'u gosod mewn lluniau llonydd ac er imi edrych yn graff ni welais yr un o'r 38 yn colli eu canolbwyntiad - da iawn wir.
Roedd y set yn syml - chwe ffrâm o wahanol faint, cwpwl o feinciau, bwrdd a phiano - a hynny yn gwbwl ddigonol.
Trawiadol oedd y defnydd a wnaed o'r golau gyda defnydd o amrywiaeth o liwiau er mwyn cyfleu'r awyrgylch briodol ar gyfer pob sefyllfa.
Hoffais yn enwedig y defnydd a wnaed o'r golau er mwyn cyfleu camerâu, yn agoriad swyddogol yr amgueddfa ar ei newydd wedd.
Cerddoriaeth Braf oedd gweld y cast eu hunain yn darparu'r gerddoriaeth, a diolch i Beca Davies am gyfeilio ar yr allweddell a Heledd Gwyn ar y ffliwt. Roedd y gerddoriaeth yn bendant wedi ychwanegu at y perfformiad.
Dyma enghraifft dda o ddramodydd, cyfarwyddwyr ac actorion wedi cydweithio'n llwyddiannus i greu perfformiad diddorol - doniol ar adegau - ond hefyd yn codi cwestiynau oedd, yn fy marn i, yn cael eu ateb am werth newid a moderneiddio.
Mwynheais bob munud o fod yn yr amgueddfa ac os cewch chithau'r cyfle yn ystod wythnos yr eisteddfod, mynnwch eich tocyn hefyd.
Adolygiadau eraill o gynyrchiadau 2008 Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|